Gorymdaith Lerpwl: Tad i dri wedi ymddangos yn y llys
Gorymdaith Lerpwl: Tad i dri wedi ymddangos yn y llys
Mae dyn busnes lleol sydd yn dad i dri o blant ag oedd yn gyrru car anafodd 79 o bobl mewn gorymdaith i ddathlu llwyddiant clwb pêl droed Lerpwl wedi ymddangos mewn llys yn Lerpwl ddydd Gwener.
Cafodd Paul Doyle, 53 oed o West Derby, ei gyhuddo ddydd Iau o yrru’n beryglus, achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, anafu gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol ac o geisio achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Yn Llys y Goron Lerpwl brynhawn dydd Gwener, siaradodd Doyle i gadarnhau ei enw a’i ddyddiad geni yn unig yn ystod y gwrandawiad cyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa cyn gwrandawiad ple ar Awst 14.
Clywodd y llys gan yr erlyniad bod Doyle wedi defnyddio ei gar "fel arf" pan gafodd ei yrru i mewn i'r dorf.
Fe wnaeth Cofiadur Lerpwl, y Barnwr Andrew Menary, nodi dyddiad dros dro am yr achos ar gyfer Tachwedd 24 a dywedodd fod disgwyl i'r achos bara am tua thair i bedair wythnos.
Dywedodd yr erlynydd Philip Astbury wrth y llys: “Mae hwn yn ymchwiliad sy’n parhau. Mae llawer o dystion i’w cyfweld a llawer iawn o deledu cylch cyfyng i’w dadansoddi.”
Fe wnaeth y barnwr osod cyfyngiadau gohebu sy'n atal y dioddefwyr rhag cael eu henwi.
Roedd Doyle yn noc llys y goron lai nag awr ar ôl iddo ymddangos yn y llys ynadon, sydd wedi'i leoli ar loriau isaf yr un adeilad.
Dywedodd y Barnwr Menary: “O ystyried y diddordeb cyhoeddus gwirioneddol, sydd ddim yn syndod yn yr achos hwn, teimlais y byddai’n briodol i’r mater, o gael ei anfon i’r llys hwn, gael ei restru ger fy mron i gael cyfarwyddiadau pellach.”
Ni wnaeth Doyle unrhyw arwydd o ble ar ôl i'r cyhuddiadau gael eu darllen i'r llys.
Safodd gyda'i ddwylo gyda'i gilydd a nodio wrth iddo gael ei gadw yn y ddalfa.
Ni roddodd Paul Doyle unrhyw arwydd o ble pan ddarllenwyd y cyhuddiadau yn Llys Ynadon Lerpwl yn gynharach yn y dydd.
Clywodd y llys mai dim ond Llys y Goron allai ddelio â'r holl droseddau ar wahân i'r cyhuddiad o yrru'n beryglus.