Gerry Adams yn ennill achos enllib yn erbyn y BBC
Mae cyn-arweinydd Sinn Fein Gerry Adams wedi derbyn 100,000 ewro (£84,000) mewn iawndal ar ôl ennill ei achos enllib yn erbyn y BBC.
Dywedodd Mr Adams fod rhaglen BBC Spotlight, a stori amdano ar-lein a oedd yn cyd-fynd gyda'r rhaglen, wedi ei ddifenwi gan honni iddo fod yn rhan o benderfyniad i ladd cyn swyddog Sinn Fein, Denis Donaldson.
Roedd Mr Adams wedi gwadu unrhyw gysylltiad gyda'i farwolaeth.
Dyfarnodd rheithgor yn yr Uchel Lys yn Nulyn o’i blaid ddydd Gwener, ar ôl penderfynu mai dyna oedd ystyr geiriau oedd wedi eu cynnwys yn y rhaglen a’r erthygl.
Canfu hefyd nad oedd gweithredoedd y BBC yn ddidwyll ac nad oedd y darlledwr wedi gweithredu mewn ffordd deg a rhesymol.
Cafodd Mr Donaldson ei saethu'n farw yn Sir Donegal yn 2006, fisoedd ar ôl cyfaddef ei ran fel asiant i'r heddlu ac MI5 dros 20 mlynedd.
Yn y rhaglen a ddarlledwyd ym mis Medi 2016, honnodd ffynhonnell ddienw o dan yr enw 'Martin' fod saethu Mr Donaldson wedi’i gymeradwyo gan arweinyddiaeth wleidyddol a milwrol yr IRA a bod Mr Adams wedi cael “y gair olaf” yn y penderfyniad.
Yn 2009, hawliodd y grŵp gweriniaethol The Real IRA gyfrifoldeb am ei farwolaeth ac mae ymchwiliad gan y Garda i’r mater yn parhau.
Dywedodd Mr Adams fod yr honiad wedi bod yn niweidiol iddo tra bod y BBC wedi disgrifio’r camau cyfreithiol fel “ymgais sinigaidd i wyngalchu ei enw da”.
Gofynnodd y gweriniaethwr am iawndal o o leiaf 200,000 ewro (£168,000) gan y BBC.
Ond roedd y darlledwr cyhoeddus wedi dadlau y byddai’n “jôc greulon” dyfarnu unrhyw iawndal i gyn-lywydd Sinn Fein.
Penderfynodd y rheithgor y dylai Mr Adams gael 100,000 ewro, sydd yn daliad ar y raddfa ganolig am ddifenwi.
Llun: PA