Dyn 20 oed yn euog o lofruddio dyn 'hael a gofalgar' yng Nghaerdydd
Mae dyn 20 oed wedi ei gael yn euog yn Llys y Goron Casnewydd o lofruddio dyn arall yng Nghaerdydd fis Tachwedd diwethaf.
Cafwyd hyd i James Brogan gydag anafiadau difrifol ger parc yn ardal Llaneirwg o'r brifddinas ar 12 Tachwedd, a bu farw yn yr ysbyty yn fuan wedyn.
Cafwyd Georgie Tanetta, 20, yn euog o lofruddio Mr Brogan ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 27 Mehefin.
Yn dilyn ei farwolaeth fe wnaeth teulu James Brogan ei ddisgrifio fel dyn "hael, gofalgar a meddylgar - digrifwr a oedd wrth ei fodd yn gwneud i bobl wenu a chwerthin".
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rebecca Merchant o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Roedd ei deulu a’i ffrindiau’n caru James Brogan yn fawr iawn ac mae colled ar ei ôl bob dydd.
"Rwy’n gobeithio bod yr euogfarn yn Llys y Goron Casnewydd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i bawb oedd yn ei adnabod ac yn ei garu.
“Mae’r achos trasig hwn yn amlygu canlyniadau dinistriol a phellgyrhaeddol troseddau cyllyll.
"Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â throseddau cyllyll drwy atal pobl rhag cario’r arfau hyn a delio’n gadarn â’r rhai yr ydym yn eu cael yn ymwneud â throseddoldeb o’r fath.
"Os oes gennych amheuon bod rhywun yn cario cyllell, cysylltwch â’r heddlu. Gallai siarad allan achub bywyd rhywun.”
Llun o James Brogan gan ei deulu