
Pryder am ddiffyg amserlen Llywodraeth Cymru i gryfhau'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd
Pryder am ddiffyg amserlen Llywodraeth Cymru i gryfhau'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi codi pryderon am ddiffyg amserlen cynllun Llywodraeth Cymru i gryfhau'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd.
Bydd ardaloedd sydd â nifer uchel o siaradwyr Cymraeg yn cael cymorth ychwanegol i gryfhau'r iaith yn eu cymunedau, ar ôl i Weinidogion Llywodraeth Cymru dderbyn argymhellion adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Fe wnaeth Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford, gyhoeddi'r cynlluniau ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam ddydd Iau.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys:
• Rhoi cymorth i ardaloedd sydd â chyfraddau uwch o siaradwyr Cymraeg i dargedu cymorth
• Sicrhau bod trigolion yn yr ardaloedd hyn, ac ar draws Cymru, yn gallu cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg
• Darparu mwy o arweiniad ynghylch yr iaith ar draws ystod o feysydd polisi
Ond mae yna ansicrwydd faint o'r newidiadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, bod angen bod yn gliriach am amserlen y cynlluniau.
Roedd yn “siomedig” nad oedd y llywodraeth yn meddwl eu bod nhw’n gallu symud ymlaen gyda rhai o’r newidiadau yn syth, meddai.
“Nid yw’r datganiad yn ymrwymo’r Llywodraeth i sut y byddant yn creu’r ardaloedd, nac yn cynnig amserlen ar gyfer gwneud hynny,” meddai.
“Mae’r Comisiwn yn glir bod angen i Lywodraeth Cymru ddeddfu i sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch er mwyn atal dirywiad y Gymraeg yn yr ardaloedd lle mae hi gryfaf.
“Rydym yn galw ar yr holl bleidiau gwleidyddol i ymrwymo yn eu maniffestos ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2026 i weithredu prif argymhelliad y Comisiwn i sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch ac i roi cynllun ac amserlen clir yn eu lle er mwyn gwneud hynny.
“Rydyn ni’n meddwl ei bod yn hollbwysig sicrhau bod adnoddau ar gael i sefydlu uned benodol i ddatblygu a chydlynu polisi cyhoeddus sy’n berthnasol i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch.
“Mae’n siomedig gweld nad yw’r Llywodraeth yn meddwl bod adnoddau presennol yn galluogi gwneud hynny ar hyn o bryd.”
‘Cydnabyddiaeth’
Dywedodd cadeirydd comisiwn sydd wedi argymell rhoi cymorth ychwanegol i gryfhau'r Gymraeg yn ei chadarnleoedd fod y cyhoeddiad ddydd Iau yn "drobwynt hanesyddol".
Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, sydd yn gadeirydd newydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ei fod yn “drobwynt hanesyddol” ac yn "gam pwysig ar gyfer Cymru gyfan".
“Mae’n gydnabyddiaeth fod angen i ni yng Nghymru nid yn unig ystyried ein hiaith ni fel iaith genedlaethol,” meddai wrth Radio Cymru.
“Iaith genedlaethol ydy’r Gymraeg - does 'na ddim amheuaeth am hynny.
“Ond mae’n rhaid i ni hefyd wirio polisi cyhoeddus i sicrhau bod 'na ffyniant priodol i’r iaith yn yr ardaloedd heini lle mae canran y siaradwyr ar ei uchaf - yng nghadarnleoedd y Gymraeg.
“Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn hefyd mewn gwledydd eraill fel Gwlad y Basg er enghraifft.”

'Perthyn i ni gyd'
Yn ôl y llywodraeth, bydd cymorth ar gael i ardaloedd sydd â chyfraddau uwch o siaradwyr Cymraeg i dargedu cymorth.
Bydd cynlluniau ar waith i sicrhau bod trigolion yn yr ardaloedd hynny, ac ar draws Cymru, yn gallu cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.
Ac mae'r llywodraeth yn dweud y bydd mwy o arweiniad yn cael ei ddarparu ynghylch yr iaith ar draws ystod o feysydd polisi
Mae'r argymhellion wedi'u derbyn ar draws sawl maes polisi gan gynnwys yr economi, tai, datblygu cymunedol ac addysg.
Bydd y Llywodraeth yn cydlynu gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i drafod yr argymhellion a'u rhoi ar waith.
Dywedodd Mark Drakeford: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac i bob cymuned ledled Cymru. Rwy'n ddiolchgar am waith caled y Comisiwn ar yr adroddiad hwn, ac rwy'n gobeithio, trwy dderbyn eu hargymhellion, y gallwn gryfhau'r Gymraeg yn ein holl gymunedau."
"Rydyn ni'n cytuno mewn egwyddor y dylid dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol, a byddwn nawr yn symud hyn ymlaen trwy weithio gyda phartneriaid i greu polisïau wedi'u teilwra sy'n ymateb i anghenion penodol cymunedau Cymraeg eu hiaith."
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1928179555740577847
'Diffyg gweithredu'
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw wedi rhoi marc o 33 allan o 100 i ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Yn ôl y mudiad, mae’r ymateb yn cydnabod yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg ond nid yw’n cynnig gweledigaeth nac yn dangos ewyllys i weithredu.
Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: “Fe wnaeth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg drafod am ddwy flynedd, mae’r Llywodraeth wedi trafod am 10 mis a phenderfynu ar ragor o drafod, ac ystyriaeth bellach ar ôl etholiad y flwyddyn nesa.
"Pam bod y Llywodraeth yn dal i sôn am drafod a gwneud gwaith ystyried pellach yn hytrach na gweithredu? Dydy diffyg gweithredu’r Llywodraeth ddim yn cyfateb â’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau.
“Mae disgyblion a myfyrwyr sydd ar y maes yn cael eu marcio ar eu llwyddiant addysgol, rydyn ni wedi marcio ymateb y Llywodraeth - eu gwaith cartref fel petai - ond yn anffodus mae’n haeddu marc isel iawn."