Newyddion S4C

Eluned Morgan yn galw am ddiwedd ar y cap ar fudd-dal lles dau blentyn

Eluned Morgan a Starmer

Mae Syr Keir Starmer yn wynebu rhagor o bwysau i gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn, ar ôl i Brif Weinidog Cymru ddadlau ei fod yn “niweidiol” i deuluoedd.

Mae’n ymddangos bod tensiynau rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru wedi codi dros yr wythnosau diwethaf, gyda’r Farwnes Eluned Morgan yn galw am adfer lwfans tanwydd y gaeaf ar gyfer y “mwyafrif o bensiynwyr” a newidiadau i doriadau lles arfaethedig.

Mae’r cap ar fudd-daliadau, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr yn 2017, yn cyfyngu credyd treth plant a chredyd cynhwysol i’r ddau blentyn cyntaf yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae’r Llywodraeth wedi bod dan bwysau ers tro i gael gwared ar y polisi, gyda saith AS Llafur yn gwrthryfela i bleidleisio yn erbyn Araith y Brenin, dros ei diffyg ymrwymiad i ddileu’r cap, o fewn mis cyntaf Syr Keir yn ei swydd.

Awgrymodd yr Ysgrifennydd Addysg Bridget Phillipson nad yw dileu’r polisi “oddi ar y bwrdd” yn gynharach yr wythnos hon, cyn i Downing Street ddatgelu nad yw gweinidogion “yn mynd i ddiystyru unrhyw beth o ran mynd i’r afael â thlodi plant”.

Mae strategaeth tlodi plant Llywodraeth y DU, a oedd i fod i gael ei chyhoeddi yn y gwanwyn, bellach yn mynd i gael ei chyhoeddi yn yr hydref yr un pryd â chyllideb y Canghellor.

Wrth siarad gyda'r BBC ddydd Mercher, dywedodd y Farwnes Morgan: “Heddiw rydym wedi cyhoeddi datganiad i alw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn.

“Rydyn ni’n meddwl ei fod yn niweidiol i lawer o deuluoedd yng Nghymru.”

Mae Plaid Cymru wedi disgrifio sylwadau’r Prif Weinidog yn “ragrith syfrdanol gan Lafur”, gan ychwanegu ei fod o ganlyniad i “banig, sy'n cael ei yrru gan arolygon barn, nid gwerthoedd”.

Dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog y DU ddydd Mawrth fod y Llywodraeth yn “hollol ymroddedig i fynd i’r afael â thlodi plant”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.