'Hynod brysur': Cau Pont y Borth unwaith eto wedi i gerbyd dros ei bwysau ei chroesi
Mae Pont y Borth ar gau fore dydd Mawrth wedi i gerbyd oedd dros ei bwysau geisio ei chroesi.
Mae Traffig Cymru yn dweud bod y bont at gau dros dro wrth i archwiliad gael ei gynnal.
Daw'r datblygiad wrth i filoedd o bobl deithio i’r ynys ddydd Mawrth ar gyfer pedwerydd diwrnod o gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, sydd ar gae Sioe Môn ger Gwalchmai.
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi rhyddhau datganiad yn cynghori teithwyr i "adael digon o amser ychwanegol" wrth deithio i'r maes.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Traffig Cymru: “Mae cerbyd dros bwysau wedi croesi’r bont felly mae’n rhaid cau’r ffordd er mwyn gwneud archwiliad. Byddwn yn ail agor y bont cyn gynted ag sy’n saff i wneud hynny.
“Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, mae eich diogelwch yn holl bwysig.
“Hoffwn eich atgoffa mai cerbydau o dan 7.5 tunnell yn unig sy’n cael croesi Pont y Borth.”
Dyma’r eildro mewn wythnos i’r bont gael ei chau wedi i gerbyd dros ei bwysau ei chroesi.
Mae'r ffyrdd yn ne'r ynys yn brysur ar hyn o bryd, gyda Chyngor Môn yn dweud fodd ffordd y B5420 Penmynydd ar gau wedi i gar fynd ar dân yno.
Dywedodd datganiad y cyngor y chydig cyn 10:00: "Mae yna gar ar dân ar y B5420 ym Mhenmynydd (ger fferm Sarn Fraint). Mae'r Gwasanaeth Priffyrdd wedi gorfodi cau’r ffordd.
"Mae’r B5420 Penmynydd wedi cau, ac mae’r awdurdod lleol yn annog pobl a oedd yn bwriadu defnyddio’r ffordd hon i ddefnyddio’r A5025 o Four Crosses i Bentraeth ac yna’r B5109 o Bentraeth i Langefni.
"Gofynnwn i bawb adael digon o amser ychwanegol wrth deithio i’r Eisteddfod heddiw, a sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer y daith a diwrnod ar y Maes."