
Y pianydd Annette Bryn Parri wedi marw'n 62 oed
Y pianydd Annette Bryn Parri wedi marw'n 62 oed
Mae’r pianydd a'r cyfeilydd Annette Bryn Parri wedi marw'n 62 oed, yn dilyn cyfnod o waeledd.
Yn wreiddiol o bentref Deiniolen yng Ngwynedd, fe ddechreuodd ar ei gyrfa gerddorol yn ifanc, gan berfformio gyda'i chwiorydd Marina ac Olwen.
Yn 1982, enillodd Fedal Grace Williams am gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhwllheli.
Graddiodd o'r Royal Northern College of Music ym Manceinion yn 1984, cyn ymuno gydag Adran Gerddoriaeth Prifysgol Cymru, Bangor fel tiwtor piano i fyfyrwyr oedd yn astudio cyrsiau cerddoriaeth.
Roedd yn bianydd i artistiaid yn cynnwys Syr Bryn Terfel, Hogia’r Wyddfa, Ysgol Glanaethwy, Rebecca Evans a Rhys Meirion yn ystod ei gyrfa.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1927683148256547178
Cyfeiliodd ar sawl achlysur yn yr Albert Hall yn Llundain ac fe gafodd ei gwahodd i Balas Kensington i berfformio o flaen Charles [Tywysog Cymru ar y pryd] a’r ddiweddar Dywysoges Diana. Roedd hi'n cyfeilio i'r canwr Aled Jones ar y pryd, ac yntau yn ei arddegau.
Ers 1993 roedd yn brif gyfeilydd i gorau Ysgol Glanaethwy ym Mangor, ac rhwng 2002 a 2011 bu’n Gyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion y Traeth.
Yn 2013 sefydlodd TRIO, triawd lleisiol sy'n cynnwys ei mab Bedwyr, yn ogystal â Steffan Lloyd Owen ac Emyr Gibson.
Yn ystod yr un flwyddyn cafodd ei hurddo i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mewn rhaglen arbennig ar BBC Radio Cymru ym mis Rhagfyr 2019, bu'n dathlu ei gyrfa gyda'i theulu a chyfeillion, ac yn hel atgofion am ei bywyd fel cyfeilydd ac hyfforddwr dros y blynyddoedd.
Wrth sôn am orfod cadw cydbwysedd rhwng ei bywyd fel cyfeilydd a magu teulu yn Neiniolen, dywedodd: "Mi oedd gynno fi ddewis, unai gyrfa biano neu i fod yn fam a byw yma yng Nghymru.
"Mae 'na lawer un 'di gofyn i fi 'pam bo' fi wedi dod yn ôl'? 'Pam na fyswn i wedi cario mlaen gyda fy mhiano'? Ond person adra' ydw i.
"Hogan Deiniolen ydw i, dwi'n hoffi bod yn wraig, yn fam ac yn nain a dyna sy'n 'neud fi'n hapus."

Roedd hefyd yn adnabyddus am gael traw perffaith (perfect pitch), yn ogystal â bod yn gerddor oedd yn gallu cyfeilio darnau hir a chymleth o gerddoriaeth o’i chof yn unig, heb fod yn ddibynnol ar gopi wrth chwarae.
Roedd Annette Bryn Parri yn briod â'r diweddar Gwyn Parri, ac yn fam i dri o blant, Heledd, Ynyr a Bedwyr.
Llun: Noson Lawen