Gwibdaith Hen Frân yn 20: Gobaith bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gwrando ar y caneuon

Gwibdaith Hen Frân yn 20: Gobaith bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gwrando ar y caneuon

Wrth i'r grŵp Gwibdaith Hen Frân ddathlu eu penblwydd yn 20 oed, mae un o aelodau'r band yn gobeithio bydd "cenedlaethau" o bobl yn parhau i wrando ar eu caneuon.

Gethin Thomas yw un o aelodau gwreiddiol y band sydd yn chwarae caneuon â geiriau hiwmor unigryw fel 'Trons dy Dad', 'Coffi Du' a 'Toyota Corolla GLI'.

Dechreuodd y band berfformio nôl yn 2005 fel cyfle i’r tri ffrind o Feirionnydd, Phil, Gethin a Paul gael chwarae eu caneuon i gynulleidfa fyw.

Dros y blynyddoedd, mae dros 12 o aelodau gwahanol wedi bod yn rhan o’r grŵp.

O ganu yn nhafarn Y Ring yn Llanfrothen, bydd y band yn perfformio rhai o'u gigiau olaf yn y Tŷ Gwerin a Llwyfan y Maes yn Eisteddfod Wrecsam ddydd Iau a Gwener.

“20 mlynedd ‘di pasio, ma’n teimlo’n rhyfadd bod yn ôl. Amsar da am ychydig bach eto," meddai Gethin wrth Newyddion S4C.

“Jyst cael hwyl o’dd y bwriad ti’bod, ‘tha dim bwriad i drio bod yn cŵl, dim bwriad i llawar o ddim byd.

“Isda yn gornal pub Y Ring Llanfrothan odda ni.

“Wedyn jyst chwarae gitâr, Phil efo’i ukulele a ballu, wedyn o’dd o jyst yn mynd o un peth i’r llall.”

Image
Gwibdaith Hen Fran
Rhai o aelodau'r band.

Glastonbury a Gwlad y Basg

Dros y blynyddoedd mae’r band wedi rhyddhau pedwar albwm, Cedors Hen Wrach, Tafod y Wraig, Llechan Wlyb a Yn ôl ar y Ffordd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r band wedi chwarae ledled Cymru ac wedi cael cyfleoedd i berfformio dramor.

Perfformio yn y Gymraeg mewn gwledydd eraill ydy'r uchafbwynt i sawl aelod y band.

“Un o'r atgofion gora’ efo Gwibdaith Hen Frân i fi oedd mynd efo Geth a Paul i Gwlad y Basg," meddai Philip Lee Jones.

“Oedd ‘na ogofau efo gwrachod ynddyn nhw, ag oedd ‘na lizards yn mynd o gwmpas yn bob man ar y llawr.

“O’dd hi’n adeg gwych.”

Dywedodd Paul Thomas: “Teithio draw i Ddulyn ar gyfer y rygbi i bysgio ar y strydoedd yn fana o’dd hynna o hyd yn wych.

“Y fraint mwya’ gefais i fel rhan o’r band oedd chwarae yn Glastonbury Festival yn 2009."

Image
Gwibdaith Hen Fran

Ychwanegodd Rob Buckley mai'r dyddiau cynnar yn perfformio mewn tafarndai yw'r uchafbwynt.

“Chwarae yn y bars yn y dyddie cynnar, acoustic yn y bar, pawb yn meddwi a pawb yn cael amser dda yn canu caneuon Gwibdaith a caneuon Gymraeg.

“A wedyn y tro gynta i plygio fewn i dybl bass ym Maes B ar llwyfan fawr a jyst y sŵn yn dod allan o hwnna a wedyn pawb yn y cynulleidfa yn jyst canu’r ganeuon.

“O’dd hwnna’n superb de.”

'Uniaethu'

Cyn eu gigiau olaf ar faes yr Eisteddfod, mae Gwibdaith Hen Frân wedi perfformio yn Tafwyl ac yn nhafarn y Saith Seren yn Wrecsam.

Mae gweld cymaint o bobl ifanc yn y dorf yn cyd-ganu gyda'r band yn deimlad "gwell nag unrhyw beth arall yn y byd", meddai Gethin.

“Jyst gweld pobl yn canu caneuon dwi ‘di sgwennu yn lloft yn tŷ mam a dad neu wbath, ma’n well na’m un teimlad arall yn y byd de.

“Lot o bobl ifanc wedi gwrando ar y CD’s pan odda nhw’n fach yn eu ceir, a ‘wan be sy’n grêt ydy bo’ nhw’n cael amsar i weld ni’n fyw hefyd de.

“Gobeithio neith o jyst cario ‘mlaen fynd lawr i bobl iau a pobl iau jyst bod o’n cario ‘mlaen i fynd."

Credai Gethin fod sawl un o'u caneuon yn rhai y gall pobl uniaethu â nhw.

“Dwi’n meddwl bod pawb yn uniaethu gyda’r caneuon achos ma nhw’n rhywbeth o ddydd i ddydd, bach o hwyl, s’nam byd yn siriys.

“Ma nhw amdan pobl, neu amdan cwrw neu pybs, petha felly.

“Swn i’n licio bobl i gofio’r hwyl, i ddim cymryd bywyd yn rhy siriys, dio’m yn gymhleth nadi?"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.