Elin Undeg Williams yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd
Elin Undeg Williams yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd
Elin Undeg Williams o Betws Gwerfil Goch, Sir Ddinbych yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a’r Fro 2025.
Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod dros 15 munud o hyd.
Mae Elin yn 18 mlwydd oed ac yn astudio Cymraeg, Hanes ac Addysg Grefyddol yn Ysgol Brynhyfryd. Ei bwriad ar gyfer mis Medi yw mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio'r Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol.
Dywedodd ei fod yn brofiad "anghredadwy" ennill.
Yr ysbrydoliaeth oedd y cyhoeddiad am y dreth etifeddiant i ffermwyr, meddai.
"Beth oeddwn i eisiau oedd adlewyrchu rhai o'r heriau sy'n mynd ymlaen yn y diwydiant amaethyddiaeth," meddai.
"Mae yna greisus anferth o ran iechyd meddwl yn bendant yn mynd ymlaen. Dwi'n meddwl ei fod yn tynnu sylw at gymaint mae pobl ifanc cefn gwlad yn poeni am ddyfodol amaethyddiaeth."
Y beirniaid eleni yw Alun Saunders a Heiddwen Tomos.
Meddai’r beirniaid: “Dyma ddrama amserol gyda deialog gelfydd am sefyllfa anodd. O’r darlleniad cyntaf roedd y ddwy ohonom wedi dwli arni.
"Mae yna fomentau arbennig sydd wir yn cyffwrdd calon. Mae’r sgrifennu yn arbennig ac yn swyno’r darllenydd.
"Mae yma ddyfnder a dealltwriaeth wirioneddol o gymeriadau y gellid yn hawdd uniaethu â nhw. Mae’r neges yn gafael a’r tynerwch rhwng y ddau gymeriad yn cynnal y ddrama.”
Rhoddir y Fedal Ddrama gan Gymdeithas Ddrama Gymraeg Abertawe.
Bydd hefyd cyfle i enillydd y Fedal Ddrama dreulio amser yng nghwmni’r Theatr Genedlaethol a derbyn hyfforddiant pellach gyda'r BBC.