Newyddion S4C

Digwyddiad Lerpwl: Profiad 'dychrynllyd' dyn o Gaernarfon

Digwyddiad Lerpwl: Profiad 'dychrynllyd' dyn o Gaernarfon

Mae dyn o Gaernarfon a oedd yn dyst i gar yn taro degau o bobl yn Lerpwl brynhawn dydd Llun wedi dweud fod y profiad yn un "dychrynllyd".

Roedd Tom Roberts ymhlith y miloedd oedd wedi teithio i'r ddinas ar gyfer gorymdaith i ddathlu tîm pêl-droed y ddinas yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr.

Cafodd bron i 50 o bobl eu hanafu yn y digwyddiad ac mae gyrrwr y cerbyd, dyn 53 oed o Lerpwl, wedi ei arestio. Fe gafodd 27 o bobl eu cludo i ysbytai'r ardal gydag 20 arall yn derbyn triniaeth yn y fan a'r lle.

Cafodd sawl cefnogwr eu hanafu'n ddifrifol, gan gynnwys plentyn. Mae pedwar unigolyn yn parhau i fod mewn cyflwr "difrifol wael" fore dydd Mawrth meddai maer y ddinas, Steve Rotheram.

Dywedodd Tom Roberts, sy'n dad i ddau o Gaernarfon, ei fod yn cerdded i fyny Stryd y Dŵr o gyfeiriad y dociau gyda'i frawd, Gwion Roberts a'i ffrind, Dylan Llywelyn adeg y digwyddiad.

"Natho ni stopio i gael llun ac wedyn natho ni gario 'mlaen cerdded i fyny'r stryd a jyst clywed llwyth o sgrechian a sŵn taro," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ag oeddan ni'n meddwl, be uffar sy'n mynd 'mlaen yn fama? Ond mi ddaru ni gario mlaen cerdded heb feddwl a wedyn neshi weld car a pobl yn smasho'r car.

"I ddechra' o'n i'n meddwl na car odd 'di mynd i'r lle anghywir, ond peth nesa mae'r heddlu yn pwsho pobl allan o'r ffordd.

"Wedyn neshi weld corff o dan y car a'r coesau 'ma a meddwl: o na, mae hwnna'n wbath gwaeth."

'Sŵn sgrechian'

Yn ôl Mr Roberts, a oedd wedi colli ei frawd yng nghanol y dorf, roedd pawb yn "poeni" erbyn hyn.

"Ro'n i'n clywed sgrechian a lot yn gweiddi 'under the car, under the car, under the car'," meddai.

"Ond y sŵn gwetha' oedd pobl yn trio codi'r car - y sŵn bangio fatha 'sa nhw'n cnocio ar wbath - ac mi odda nhw'n smasho'r car i fyny.

"Dwi'n gwbo odda nhw 'di cael y dreifar allan a wedyn ona rhyw scuffle yn mynd mlaen yn fana."

Image
Tom Roberts
Dywedodd Tom Roberts y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol pe na bai wedi stopio i dynnu'r llun hwn ar waelod Stryd y Dŵr eiliadau cyn y digwyddiad

Ar ôl dod o hyd i'w frawd, fe wnaeth Mr Roberts ddechrau cerdded i gyfeiriad ei gar ar gyffiniau'r ddinas.

"Roedd tua 20 o ambiwlans a mwy o heddlu a'r gwasanaeth tân yn fflio hebio ni a wedyn natho ni weld yr hofrennydd yn glanio," meddai.

"Nath o ddigwydd mor sydyn ac aeth y ddinas i mewn i fatha lockdown.

"Odd gyna i lot o ffrindia' yna ac o'n i'n meddwl os oedd 'na rywun dwi'n nabod.

"Ond yn fwy na dim holl blant y teuluoedd - o'n i 'di hannar meddwl mynd efo mab fi sy'n bump oed, ond dwi'n falch neshi ddim mynd â fo yn diwadd."

Wrth edrych yn ôl ar y digwyddiad, dywedodd Mr Roberts na fyddai'n mynd i barêd eto.

"Natho ni fynd dydd Sul, gwylio'r gêm tu allan i Anfield a chael andros o hwyl yn canu a dawnsio," meddai.

"Oeddan ni'n disgwyl am bump awr lawr ar y dociau, pawb yn cael hwyl - ond ar y ffordd adre natho ni ddim deud gair.

"Oeddan ni jyst ar ein ffôns ni yn sbio ar y newyddion ac yn gwrando ar y radio.

"A wedyn oeddan ni'n deud dwi'm yn gwbo os fysa ni'n dod tro nesa."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.