Darganfod corff dyn 20 oed ar Yr Wyddfa
Mae corff dyn 20 oed wedi cael ei ddarganfod ar Yr Wyddfa.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y corff wedi cael ei ddarganfod ychydig cyn 10:00 fore Mawrth.
Mae cadarnhad bellach mai corff dyn 20 oed o'r enw John o Orllewin Sussex sydd wedi cael ei ddarganfod.
Daw hyn wedi i apêl am wybodaeth amdano gael ei gyhoeddi gan yr heddlu yn ystod oriau mân fore Mawrth.
Dywedodd yr heddlu nad oes tystiolaeth ar hyn o bryd fod y farwolaeth yn amheus, ac mae'r crwner wedi cael gwybod.
Ychwanegodd y llu fod "eu meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau John yn y cyfnod anodd yma."