Newyddion S4C

‘Dwi ddim yn wraig, dwi jest yn ofalwr’: Dynes o Wynedd yn erfyn am gymorth gofal

Newyddion S4C 27/05/2025

‘Dwi ddim yn wraig, dwi jest yn ofalwr’: Dynes o Wynedd yn erfyn am gymorth gofal

Mae dynes o Gaernarfon sydd wedi bod yn gofalu am ei gŵr ers 12 mlynedd yn dweud nad yw hi’n “gallu cario mlaen” dan y drefn bresennol gan alw am fwy o gyfleoedd ysbaid i ofalwyr di-dal yng Nghymru.

Mae Sue Rendell yn brif ofalwr i’w gŵr Terry sydd yn byw â chyflwr Parkinson's Fasgwlaidd ac yn dweud, er ei hymdrechion, ei bod hi wedi methu â chanfod unrhyw gyfleoedd am ysbaid dros nos wedi’w gynllunio o flaen llaw iddo.

Gyda 310,000 o ofalwyr di-dâl drwy Gymru, rhybuddio mae ei haelod lleol o'r Senedd, Sian Gwenllian AS, y gallai’r system ‘ddymchwel’ oni bai bod mwy o gymorth yn cael ei roi i ofalwyr.

Dweud mae Llywodraeth Cymru fod gan awdurdodau lleol “ddyletswydd” i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl a bod cynllun “seibiannau byr” ar gael.

Mae Sue bellach yn gwneud popeth dros ei gŵr sydd methu siarad na symud yn hawdd.

O drefnu apwyntiadau, ei ymolchi, ei symud a’i fwydo, mae hi’n dweud er ei bod wedi ymddeol, ei bod hi’n gweithio 80 o oriau yr wythnos ac mae hynny'n cael effaith ar ei hiechyd corfforol a meddyliol.

“Neshi edrych yn y mirror wythnos diwethaf ac mae gennai bags dan fy llygaid a dwi’n gwbod dwi ddim mor patient ag oeddwni," meddai.

“Dwi’n berson wahanol i’r person dwi’n gwybod ydwi rŵan."

Image
Gofal Terry y gwr.jpg
Mae Terry yn byw â chyflwr Parkinson's Fasgwlaidd

Ar ôl ceisio gwneud bob dim ei hun, yn ddiweddar mae Sue wedi derbyn cefnogaeth gofalwyr drwy’r cyngor lleol ddwywaith y dydd.

Ond yr hyn mae hi wir eisiau ydy gofal ysbaid lle mae modd gollwng ei gŵr mewn cartref am wythnos rhyw dair neu bedair gwaith y flwyddyn er mwyn iddi gael seibiant call.

“Es i at y cyngor sir a dweud dwi angen respite, dwi angen i bob dim jest stopio am ychydig... dwi’n fodlon cario mlaen ond dwi’n dweud allai ddim cario ‘mlaen heb seibiant," meddai.

“Ar ôl gweithio fy holl fywyd, paratoi at hwn, cario mlaen am dros 10 mlynedd i neud o ar y 'mhen fy hun... pan dwi’n mynd at y cyngor am help a mynd at y sector breifat.. ond does dim byd ar gael."

'Cwbl hanfodol'

Cydnabod yr heriau y mae Cyngor Gwynedd gan ddweud mai “nifer fechan iawn o welyau ysbaid dwys sydd ar gael a hynny oherwydd ei fod yn wasanaeth gofal arbenigol a hefyd gan fod y galw am welyau parhaol yn uchel”.

Ond mae 'na bryder nad yw’r her yn unigryw i Wynedd gyda Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn dweud bod hon yn broblem genedlaethol.

“Ni’n clywed ar lawr gwlad bod o’n anodd i gael y seibiant wedi ei gynllunio”, meddai Dr Catrin Edwards o’r elusen.

“Mae gofalwyr di-dâl yn cyfrannu cyfwerth â 10 biliwn o oriau o ofal bob blwyddyn felly petai gofalwyr di-dâl ddim yn cael eu cynnal, fydda’n rhaid i’r system iechyd a gofal gamu mewn.

“Mae’n gwbl hanfodol bo nhw’n cael seibiannau sy’n cynnal nhw."

Image
Sian
Yr Aelod o’r Senedd dros Arfon Sian Gwenllian

Mae Sian Gwenllian AS wedi bod yn helpu Sue Rendell drwy'r broses ac yn rhybuddio y gallai’r sefyllfa waethygu heb ymyrraeth.

“Neith y system ddymchwel os ‘da ni ddim yn dechrau cydnabod gwerth gofalwyr di-dâl a rhoi y gefnogaeth mae nhw isho," meddai.

“Dwi’n meddwl oni bai bod ni’n deffro i’r sefyllfa yma mae’n mynd i fynd yn argyfwng go iawn.

“Mae gofal ysbaid yn rhan bwysig o be allwn ni fod yn rhoi fel cefnogaeth i ofalwyr."

Drwy rannu ei phrofiad mae Sue yn gobeithio y bydd gweithredu o fewn y system i ddarparu mwy o ofal ysbaid.

“Dwi jest isho dwy neu dair wythnos y flwyddyn... dwi ddim yn wraig bellach dwi jest yn ofalwr," meddai.

'Deall pryderon'

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn “deall pryderon teuluoedd mewn perthynas ag argaeledd gofal ysbaid yn enwedig i’r rhai sydd yn byw gyda dementia a/neu gyflyrau iechyd dwys.

“Mae Cyngor Gwynedd yn adolygu ei ddarpariaeth yn gyson ac yn parhau i ymdrechu i gynyddu darpariaeth ysbaid pan mae cyfleon ac adnoddau ar gael. 

"Gallwn gadarnhau bod darpariaeth ar gyfer anghenion dwys wedi ei gynnwys yn y cynlluniau arfaethedig ar gyfer ail-ddatblygu safle Penyberth ger Pwllheli ac yn ystyriaeth wrth gynllunio rhaglenni buddsoddi mewn cartrefi preswyl eraill sydd dan reolaeth y Cyngor.”   

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw’n gwerthfawrogi rôl holl bwysig gofalwyr di-dâl a bod gan awdurdodau lleol “ddyletswydd” i gefnogi gofalwyr di-dâl “a hynny yn cynnwys ysbaid".

“Yn ogystal â hyn, mae ein cynllun seibiannau byr cenedlaethol, yn cael effaith gadarnhaol ar les, ac wedi mynd tu hwnt i’n targedau i ddarparu 30,000 o seibiannau i ofalwyr di-dâl yn 2022-25 ac rydym wedi darparu £3.5m pellach i barhau â’r cynllun tan fis Mawrth 2026," meddai llefarydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.