Newyddion S4C

Cyrsiau Ieithoedd Modern a Cherddoriaeth i barhau ym Mhrifysgol Caerdydd

Cyrsiau Ieithoedd Modern a Cherddoriaeth i barhau ym Mhrifysgol Caerdydd

Bydd Prifysgol Caerdydd yn parhau i gynnig cyrsiau Cerddoriaeth ac Ieithoedd Modern wedi i'r sefydliad ail ystyried eu penderfyniad i gau'r adrannau.  

Cafodd y cynlluniau eu beirniadu gan fyfyrwyr a cherddorion, wedi iddyn nhw gael eu cyhoeddi ddechrau'r flwyddyn. 

Daw'r cyhoeddiad wedi i Brifysgol Caerdydd wneud tro pedol ar argymhellion i gael gwared â'u cyrsiau nyrsio a oedd yn rhan o'r pecyn toriadau mawr a gafodd ei gyhoeddi fis Ionawr.  

Dywedodd y brifysgol bryd hynny y byddai angen i 400 o swyddi ddiflannu, sef 7% o'r gweithlu. Cafodd y ffigwr hwnnw ei ostwng i 138 yn gynharach y mis hwn, ar ôl i rai gweithwyr wneud cais am ddiswyddiad gwirfoddol.    

Mae'r brifysgol wedi cyhoeddi hefyd ddydd Mawrth y bydd eu hadrannau Hanes yr Henfyd, Crefydd a Diwinyddiaeth yn cau, a bydd darpariaeth eu hadrannau cerddoriaeth a ieithoedd modern yn cael ei chwtogi.  

Yn y diweddariad ar gyfer y staff, dywedodd  is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, Yr Athro Wendy Larner, ei bod bellach yn argymell cadw'r ddarpariaeth ym meysydd Ieithoedd Modern ac Ymchwil Cerddoriaeth ac Addysg, ond y byddai'r "strwythur yn cael ei adolygu, gyda allai o staff o fewn adran newydd Ysgol Dyniaethau Byd-eang."    

Ond bydd graddau Hanes yr Henfyd, Crefydd a Diwinyddiaeth yn dod i ben wedi i'r myfyrwyr sy'n cofrestru ym mis Medi 2025-26 gwblhau eu cwrs. 

Bydd y cynnig newydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor y Brifysgol ar 17 Mehefin i'w gymeradwyo. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.