Prif Weithredwr newydd Hybu Cig Cymru yn gobeithio am ragor o arian gan Lywodraeth Cymru
Mae prif weithredwr newydd Hybu Cig Cymru wedi dweud ei fod yn gobeithio am ragor o arian gan Lywodraeth Cymru wrth i lai o arian ddod gan werthwyr cig.
Mewn cyfweliad ar raglen Ffermio ddydd Llun dywedodd José Peralta ei fod yn pryderu na fydd y corff yn gallu parhau i wneud popeth y mae’n ei wneud ar hyn o bryd heb ragor o nawdd.
Yn sgil gostyngiad yn incwm ardoll ar werthiant cig coch Cymru bydd angen i’r corff naill ai wneud llai neu gael rhagor o arian o rywle, meddai.
Mae Hybu Cig Cymru yn gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru.
Cwmni preifat ydyw ond Llywodraeth Cymru sy'n berchen arno ac yn ei oruchwylio.
Mae’n derbyn rywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru ond daw ei incwm craidd o’r Ardoll Cig Coch, sy’n daladwy gan ffermwyr a phroseswyr ar bob anifail sy’n mynd i mewn i’r gadwyn fwyd.
“Dim ond tair ffordd sydd y gallwch chi ddatrys y cyllid mewn gwirionedd,” meddai José Peralta wrth Ffermio.
“Fe allen ni neu'r diwydiant benderfynu bod gan HCC gylch gwaith llai o faint.
“Dyna un ffordd, oherwydd eich bod chi wedi lleihau eich cost yn y ffordd honno.
“Os mai’r penderfyniad yw bod angen i ni wneud popeth rydyn ni'n ei wneud heddiw, yn amlwg bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i gyllid amgen.
“Naill ai rydyn ni'n dod o hyd i ffordd i fasnacheiddio ein hunain, neu rydyn ni'n cynyddu'r ardoll neu rydyn ni'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru.
“Rwy'n credu mai'r un mwyaf amlwg fyddai ceisio am arian gan Lywodraeth Cymru yn gyntaf.
“Oherwydd mewn gwirionedd, mae yna feysydd y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych arnynt lle rwy'n credu gobeithio y gallai HCC helpu.”
Meddai Llywodraeth Cymru wrth ymateb bod gwaith Hybu Cig Cymru "yn hynod bwysig i dalwyr lefi a Llywodraeth Cymru".
"Rydym yn rhannu gweledigaeth ar gyfer diwydiant proffidiol, cynaliadwy, arloesol a chystadleuol sydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi wledig ehangach.
"Rydym yn cydnabod y sefyllfa ariannol heriol i HCC oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys gostyngiad yn incwm lefi cig coch.
"Bydd Gweledigaeth HCC yn ddogfen bwysig ac edrychwn ymlaen at gydweithio â HCC unwaith y byddant wedi ymgymryd â'u hadborth o gyfarfodydd rhanddeiliaid."
Cyfnod cythryblus
Fe wnaeth José Peralta gychwyn yn ei swydd newydd ar 20 Ionawr, ar ôl gweithio ar lefel Rheolwr Gyfarwyddwr yn niwydiant cig y DU ers dros 25 mlynedd.
Daw’r penodiad yn dilyn cyfnod cythryblus i’r corff.
Fe olynodd Gwyn Howells wnaeth roi’r gorau i’w swydd fis Mehefin y llynedd
Roedd ymchwiliad annibynnol i ymddygiad Gwyn Howells wedi dweud y byddai wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol pe na bai wedi ymddiswyddo.
Fis Mehefin y llynedd, cafodd y corff ei labelu yn "siop siafins eilradd" gan gynrychiolwyr y diwydiant cig.
Dywedodd José Peralta wrth Ffermio bod problemau'r corff bellach “yn y gorffennol”.
“Ers i fi ddechrau, dydw i ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod yna bryderon heddiw,” meddai.
Bydd Ffermio yn cael ei darlledu ar S4C am 22.00 ddydd Llun.