Newyddion S4C

Cynnydd ym maint bagiau llaw Ryanair wedi galwad gan wleidyddion

Rynair

Mae Ryanair, cwmni hedfan mwyaf Ewrop, wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cynyddu maint y bagiau llaw y mae hawl i bobl fynd â nhw ar awyrennau “dros yr wythnosau nesaf”.

Bydd maint y bagiau llaw i’w gosod o dan sedd y mae pobl yn cael mynd â nhw yn cynyddu o 40 x 25 x 20cm i 40 x 30 x 20cm.

Daw wedi i bwyllgor trafnidiaeth Senedd Ewrop alw am newid y rheolau ar fagiau ar awyrennau.

Galwodd y pwyllgor fis diwethaf am i dwristiaid gael mynd ag un “eitem bersonol” ar awyren, fel bag llaw, sach gefn neu liniadur  gyda dimensiynau uchaf o 40 x 30 x 15cm.

Byddai hynny yn ogystal â bag neu siwtces 100cm a 7kg arferol, heb ffi ychwanegol.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran EasyJet y bydd uchafswm maint eu bagiau nhw yn aros yr un fath, sef 45 x 36 x 20cm. Mae gan British Airways a Jet2 hefyd eisoes uchafswm maint bagiau sy’n fwy na lleiafswm pwyllgor Senedd Ewrop. 

Mae'r corff sy’n cynrychioli cwmnïau hedfan, Airlines for Europe (A4E), wedi bod mewn trafodaethau gyda chomisiynydd trafnidiaeth yr UE ym Mrwsel, Adina Valean.

Dywedodd cyfarwyddwr A4E, Ourania Georgoutsakou mai’r nod oedd “dod â mwy o sicrwydd i deithwyr ledled Ewrop”.

Bydd pawb sydd â bag llaw maint 40 x 30 x 15cm yn gallu mynd ag o ar unrhyw awyren, meddai.

“Bydd pawb yn elwa o’r un rheolau ar draws rhwydwaith ein haelodau,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.