AS sydd wedi profi anabledd yn cyhuddo Llafur o anghofio eu gwreiddiau
Wrth siarad yn y drafodaeth am y bil budd-daliadau nos Lun fe soniodd Aelod Seneddol am ei brofiad o anabledd.
Roedd David Chadwick hefyd wedi honni bod gwleidyddion Llafur ar y fainc flaen wedi anghofio eu gwreiddiau.
Fe gafodd yr AS yn ardal Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe ddiagnosis o Syndrom Guillain–Barre 11 mlynedd yn ôl.
Mae'n gyflwr lle mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar y nerfau.
Dywedodd bod y profiad wedi rhoi "cip" iddo o fywyd person anabl.
'Parlysu am dri mis'
"Roeddwn i wedi fy mharlysu am dri mis ac yna yn lwcus fe wnes i adferiad llwyr dros y blynyddoedd wedyn. Fe roddodd y profiad gip i fi o sut beth yw bod yn anabl. Fe es i o fod yn hollol iach i fod yn hollol ddibynnol dros nos a cholli'r gallu i symud am dri mis.
Ychwanegodd: "Dwi'n cofio er enghraifft bod gyda rhyw ddyfais clicio, bachyn, er mwyn i fi allu nol fy sanau a newid yn y bore. Mae hyn yn un o'r enghreifftiau sydd wedi eu tanlinellu heddiw o'r costau ychwanegol a'r heriau y mae pobl sydd yn byw gyda anableddau yn eu hwynebu."
Nos Lun fe bleidleisiodd yr AS gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn erbyn y mesur budd-daliadau lles. Ond fe lwyddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ennill y bleidlais gyda mwyafrif o 75 o bleidleisiau.
Mae'n golygu y bydd y bil diwygio lles yn symud i'r cam nesaf yn y Senedd.
Ond roedd yn rhaid i Syr Keir Starmer wneud diwygiadau hyd yn oed yn yr oriau olaf er mwyn ceisio tawelu rhai o'r aelodau Llafur oedd yn gwrthwynebu'r bil.
Yn ôl Mr Chadwick dylai'r llywodraeth ganolbwyntio ar ddatrys "materion iechyd a gofal cymdeithasol, taclo gwir achos iechyd cronig gwael neu ddarparu swyddi da ar draws Cymru."
'Diwygiadau pwysig'
Dywedodd bod y wladwriaeth les wedi ei hadeiladu gan wleidyddion fel Aneurin Bevan a David Lloyd George.
"Yng Nghymru rydyn ni yn gwybod sut i ymladd dros ein gilydd a dydyn ni ddim yn anghofio ein gwreiddiau nac ydyn? Ond maen nhw wedi.
"Roedd hi'n gywilyddus gweld gwleidyddion Llafur Cymru yn eistedd yno ar y meinciau blaen".
Wedi'r bleidlais fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiwn, Liz Kendall bod yna "wersi i'w dysgu o'r broses" ond fe wnaeth hi amddiffyn y bil.
Dywedodd wrth y BBC bod y mesur yn rhoi "diwygiadau pwysig" yn eu lle er mwyn helpu'r rhai sydd yn gallu gweithio i wneud hynny.
Yn sgil y newidiadau i'r bil bydd pobl sy'n derbyn y taliad annibyniaeth personol (PIP) ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny. Fydd yna chwaith ddim newid i'r Taliad Annibyniaeth Personol nes bod adolygiad wedi ei gynnal.
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu proses y bil ac wedi dweud y dylai gael ei hepgor yn gyfan gwbl.
Llun: David Chadwick ©House of Commons/Laurie Noble