Golwr Cymru Danny Ward yn arwyddo i Wrecsam
Mae golwr Cymru Danny Ward wedi arwyddo i Glwb Pêl-droed Wrecsam.
Bydd Ward yn ymuno gyda'r clwb wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu tymor cyntaf yn y Bencampwriaeth ers 2002.
Dechreuodd Ward, sydd yn 32 oed ei yrfa gyda Wrecsam fel chwaraewr ieuenctid yn 2007, cyn symud i Lerpwl yn 2012.
Ers hynny mae wedi chwarae i Morecambe, Aberdeen a Huddersfield ar fenthyg ac yna arwyddo Leicester City yn 2012.
Mae'n debygol y bydd Ward yn ail ddewis tu ôl i Arthur Okonkwo, a hynny wedi iddo golli ei le fel prif golwr Cymru i Karl Darlow.
Dywedodd Danny Ward, sydd wedi chwarae 44 o weithiau dros Gymru, ei fod yn ddiolchgar o ddychwelyd i Wrecsam.
"Mae'n gyfnod cyffrous ac yn deimlad anhygoel bod nôl gyda'r clwb," meddai.
"Dwi'n hynod ddiolchgar am y cyfle rhoddodd y clwb i mi yn fachgen ifanc, a dwi'n gobeithio y gallai ad-dalu'r ffydd honno."