
Actores yn 'joio bod yn fy hunan' gydag ADHD
Mae actores sydd gyda'r cyflwr ADHD yn dweud ei bod yn gyfforddus yn ei chroen ei hun am fod ganddi fam a theulu cefnogol.
Bydd Hannah Novello Bianchi-Jones, sy'n 23, yn rhannu ei phrofiad ar raglen 'Teulu, Actio ac ADHD' nos Lun.
Y hynaf o saith o blant, roedd cael ei magu mewn teulu mawr yng Nghwm Rhondda yn "hwyl" meddai, gyda'i chwiorydd a brodyr yn ffrindiau iddi.
"Er bod popeth heb bod yn hollol hawdd yn tyfu lan gyda'r ADHD a popeth, fi'n bendant yn teimlo fel bydden ni ddim yn newid unrhywbeth achos mae'r creadigrwydd yn teulu ni, ma' fe mor sbesial," meddai. "Ma' fe mor unigryw.
"Mae pawb wastad yn dweud wrtho fi 'Ti'n edrych fel ti wir yn joio bod yn dy hunan'. Ac ma hwnna achos mam ac achos teulu mor cefnogol a creadigol sy da fi."
Mae rhaglen Hannah ar S4C yn rhan o gynllun 'It's my shout' sydd yn arbenigo mewn darganfod a datblygu talent ar gyfer y diwydiant ffilm.
Yn y brifysgol fe wnaeth rhai o ffrindiau Hannah awgrymu iddi efallai ei bod yn niwro wahanol.
"Pan nes i gael yr asesiad odd y fenyw wedi dweud, 'O ti heb wneud yn wael yn arholiadau na unrhywbeth?'," meddai.
"O'n i fel, 'Wel nes i dal stryglo'. Ond dyw e ddim yn gorffod bod i wneud gyda hwnna.
"Mae dim pawb sydd gyda ADHD ddim yn academaidd neu ddim yn gweithio yn galed neu unrhywbeth fel na."

'Derbyn mwy'
Ers iddi fod yn blentyn mae Hannah wedi mwynhau canu, actio a dawnsio. Ei mam yw ei "hysbrydoliaeth". Mae Heledd Bianchi yn actores hefyd.
"Mond yn ddiweddar ges i'r autism ar gyfer fy hunan â'r ADHD yn yn forties," meddai Heledd.
"Mae e'n handi falle i gael y diagnosis ond does dim lot fawr o ddarpariaeth a inclusivity mas ‘na fydden i yn dweud.
"Mae fwy o ymwybyddiaeth nawr sy'n teimlo fel bod pethe yn cael ei derbyn mwy."
Nid Hannah yw'r unig un sydd yn mwynhau ymwneud â'r byd actio gyda dwy o'i chwiorydd yn cael pleser o fod tu ôl i'r camera a chwaer arall hefyd yn hoffi camu ar y llwyfan.
"Does dim pwyse ar neb i ddysgu. Ma nhw yn mynd lawr y trywydd lle mae pasiwn nhw a pawb jest yn pretty much neud be ma nhw moen gyda tipyn bach o anogaeth a cic lan y tîn pan ma wir raid..!" meddai ei mam.
Datblygu sioe
Erbyn hyn mae Hannah yn byw gyda'i mam-gu yng Nghaerdydd ac yn dweud ei bod "mor gefnogol" iddi.
Mae wedi gwneud ychydig o waith theatr, wedi ymddangos yn y ffilm Milodfa ar gyfer S4C ac yn gweithio fel actores yn Alcotraz, sef bar lle mae pobl yn cael y profiad o fod mewn carchar.
Yn y brifysgol fe wnaeth hi ysgrifennu sioe un fenyw am ei phrofiad o gael gwybod bod ganddi ADHD.
Ei gobaith yw ail edrych ar y ddrama honno a pharhau i ysgrifennu.
"Caren ni ddatblygu hwnna," meddai.
"Falle gweld actores newydd yn neud e, falle cyfarwyddo."
Mae'n teimlo'n "gyffrous" meddai am y cyfleoedd sydd yn ei hwynebu yn y dyfodol.
Gwyliwch 'Teulu, Actio ac ADHD' ar 28 o Orffennaf am 22.00 ar S4C, BBC iplay a Clic ac YouTube Hansh.