Penodi Cyfarwyddwr Corfforaethol newydd ar Gyngor Gwynedd

Catrin Thomas

Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi Catrin Thomas fel Cyfarwyddwr Corfforaethol newydd i'r awdurdod.

Mae Catrin Thomas yn olynu Geraint Owen, sydd wedi ymddeol wedi 41 mlynedd o wasanaeth i Gyngor Gwynedd a’r hen Gyngor Sir Gwynedd gynt.

Cafodd Catrin Thomas ei magu yn Llanrug, ac ar ôl cyfnod i ffwrdd o Wynedd mae bellach wedi ymgartrefu yn ôl yno.

Mae hi'n ymuno gyda’r Cyngor o gymdeithas dai Adra, ble mae’n Bennaeth ar Wasanaethau Cwsmeriaid. 

Gweithiodd yn flaenorol mewn sawl adran yng Nghyngor Gwynedd dros gyfnod o 20 mlynedd.

Yn dilyn y cyhoeddiad am ei phenodiad, dywedodd: “Mae’n fraint cael fy mhenodi i’r swydd hon ac edrychaf ymlaen at weithio gyda thimau ymroddedig y Cyngor ac amryw bartneriaid y Cyngor, i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf i drigolion a chymunedau lleol.”

Dywedodd Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd: “Mae’n newyddion da iawn fod Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion y Cyngor wedi penodi Catrin Thomas i’r swydd Cyfarwyddwr yn dilyn ymddeoliad Geraint Owen.

“Mae Catrin yn gyfarwydd i nifer fawr ohonom yn barod yma yng Nghyngor Gwynedd, ac mae’n bob amser yn braf gweld cyn aelodau staff yn dychwelyd i’r awdurdod gyda phrofiadau gwerthfawr o sefydliadau eraill.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddymuno’n dda i Geraint Owen ar ei ymddeoliad a diolch iddo am 41 mlynedd o wasanaeth ymroddedig i Gyngor Gwynedd, a Chyngor Sir Gwynedd gynt. 

"Mae cyfraniad, ymrwymiad  a phrofiad Geraint dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.