Newyddion S4C

Rhybudd am y 'perygl difrifol' o neidio oddi ar greigiau ar ôl i berson ifanc fynd i drafferth

Ymgyrch achub Cricieth

Mae bad achub yng Ngwynedd wedi rhybuddio am y "perygl difrifol" o neidio oddi ar greigiau ar ôl i berson ifanc fynd i drafferth.

Fe gafodd Bad Achub Cricieth eu galw am 21.06 nos Lun yn dilyn adroddiadau bod person ifanc yn sownd ar y clogwyni ger y castell yn y dref.

Roedd y person ifanc yn rhan o grŵp a oedd wedi bod yn neidio oddi ar y creigiau, cyn dringo'n uwch i fyny a methu â dringo yn ôl i lawr. 

Yn rhan o'r ymgyrch achub oedd Gwylwyr y Glannau Cricieth, Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn, Heddlu'r Gogledd, y Gwasanaeth Tân a'r Gwasanaeth Ambiwlans.

Fe gafodd hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau hefyd ei alw i'r digwyddiad er mwyn goleuo'r lleoliad.

Daeth y gwasanaethau brys i'r casgliad mai'r ffordd fwyaf diogel o achub y person ifanc oedd i aelod o dîm Gwylwyr y Glannau abseilio i lawr y clogwyn o gyfeiriad y castell, gan yna ei cludo i lawr i'r bad achub.

Fe wnaeth y criw drosglwyddo'r person ifanc, a oedd yn dioddef o effeithiau'r oerfel, i ofal y tîm ambiwlans.

Fe gafodd person ifanc arall a oedd wedi ceisio ei helpu ei dynnu allan o'r dŵr hefyd yn dioddef o effeithiau'r oerfel.

'Gweithgaredd risg uchel'

Dywedodd llefarydd ar ran Bad Achub Cricieth: "Mae neidio oddi ar y creigiau a’r clogwyni o amgylch y castell yn gyffredin yn ystod misoedd yr haf, ond dylai unrhyw un sy’n mynd ar y creigiau fod yn ymwybodol o’r perygl difrifol. 

"Mae’n weithgaredd risg uchel sydd â’r potensial i arwain at anaf neu drasiedi. Diolch byth, daeth digwyddiad heno i ben yn ddiogel oherwydd ymateb y criw, gwasanaethau brys eraill ac yn enwedig dewrder ein tîm Gwylwyr y Glannau lleol."

Mae'r llefarydd wedi annog pobl i beidio â rhoi eu hunain mewn perygl wrth geisio helpu eraill.

"Yn lle hynny, ffoniwch 999 a gofyn am y gwasanaeth brys priodol," meddai.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.