
Dillad a phropiau sioe fyw olaf Monty Python ar werth mewn ocsiwn
Mae dillad a phropiau sioe fyw olaf y gyfres gomedi poblogaidd Monty Python yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn.
Y gred yw mai'r sioe yn arena O2 yn Llundain yn 2014 oedd y tro olaf i'r criw berfformio gyda'i gilydd, sef y Cymro Terry Jones, John Cleese, Eric Idle, Syr Michael Palin a Terry Gilliam.
Bu farw Terry Jones a oedd yn enedigol o Fae Colwyn o gyflwr prin yn gysylltiedig â dementia yn 2020. Roedd yn 77 oed.
Daeth y criw o ddigrifwyr at ei gilydd yn 1969.
Bu farw aelod arall, Graham Chapman o ganser yn 1989.
Ar ôl i'r ocsiwn agor ddydd Mawrth, mae modd cael gafael ar ryw 90 o eitemau prin, o wisgoedd a phropiau o gasgliad Terry Gilliam. Roedd 60 ohonynt wedi eu defnyddio yn y sioe fyw olaf yn 2014.
Ffarwel
Dywedodd Syr Michael Palin mai hon oedd y sioe ffarwel, ac mae'n gobeithio y bydd y cefnogwyr mwyaf teyrngar yn medru cael gafael ar yr eitemau.
“Monty Python Live (Mostly) yn yr O2 oedd y sioe i orffen pob sioe Python,” meddai'r digrifwr a chyflwynydd 82 oed.
“Doedd yr un ohonon ni wedi profi ymateb ar y fath raddfa gan gynulleidfa cyn hynny, sy'n brawf bod modd ymddwyn yn wirion pan yn hŷn na 70 oed.
“Doedd dim modd rhagori ar y sioe honno, ac wedi marwolaeth drist Terry Jones, mae'n rhaid i ni gydnabod mai'r perfformiad yn yr O2 oedd sioe ffarwel Python.”

Ymhlith yr eitemau o dan y forthwyl, mae gwisg lle'r oedd y stumog yn ffrwydro yn un o'r sgetsys, gwisg albatross John Cleese, parot marw ffug, a chawell yr aderyn.
Ar ôl i'r gwaith trefnu ddechrau ym Medi 2024, mae prosiect ar y gweill i godi cerflun o Terry Jones yn ei dref enedigol ym Mae Colwyn, a'i osod ar y promenâd.
Llwyddodd y trefnwyr i gyrraedd eu targed ariannol o £120,000 mewn llai na chwe mis.
Y gobaith yw y bydd y cerflun yn ei le erbyn gwanwyn 2026.
Bydd yr ocsiwn ar gyfer eitemau sioe olaf Monty Python ar agor tan 20 Gorffennaf.
Llun: Andrew Matthews/PA Wire