
'Haeddu llais': Llyfr newydd yn dathlu menywod Cymru ym myd y campau

'Haeddu llais': Llyfr newydd yn dathlu menywod Cymru ym myd y campau
Mae llyfr newydd wedi ei gyhoeddi'r haf hwn er mwyn dathlu menywod Cymru ym myd y campau.
Dywedodd Elen Hughes, awdur y gyfrol Ymlaen â Hi! mai'r bwriad ydi rhoi llais i arwresau chwaraeon Cymru.
"Gafon ni'r syniad i greu'r gyfrol Ymlaen â Hi! pan oddan ni'n cael sgyrsia mewn ffordd am lwyddiant timau ac unigolion merched Cymru ym myd y campau a teimlo bod 'na lot o heriau'n wynebu nhw a bod nhw'n haeddu llais," meddai ar raglen Heno S4C.
"Mae'r gyfrol wedi'i rhannu yn wyth pennod, a 'da ni'n sôn am wahanol gampau - o rygbi a phêl-droed, i gemau rhwyd a phêl, i chwaraeon cefn gwlad llyn a môr.
"'Da ni'n mynd o glywed hanes Irene Steer oedd y Gymraes gyntaf i ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd yn nofio, i hanes mwy cyfredol fatha hanes Dyddgu Hywel yn gwisgo crys Cymru ac yn cynrychioli ei gwlad ar y cae rygbi."
Daw'r gyfrol wrth i fenywod Cymru gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Euro am y tro cyntaf erioed.

Gobaith Elen ydi y bydd y gyfrol yn atgoffa pobl o lwyddiant y tîm wrth iddyn nhw gyrraedd y garreg filltir hon.
"Fel mam i ddwy o genod 'da ni'n dathlu a mwynhau bod tîm menywod Cymru wedi cyrraedd yr Euros," meddai.
"A dwi'n gobeithio fydd y llyfr dal yna ymhen blynyddoedd i atgoffa pobl ifanc neu pobl o bob oed o'r llwyddiant mae merched Cymru wedi ei gael."
Dywedodd Laura McAllister, cyn-gapten pêl-droed Cymru, bod y gyfrol yn dangos "pwrpas y gêm".
"Mae'n mor bwysig jyst i cael y lle 'na i dadlau sefyllfa merched a menywod yng Nghymru," meddai.
"Dyna'r pwrpas o tîm merched Cymru, dim jyst i ennill, dim jyst i fod yn llwyddiannus ar y cae ond i cynrychioli menywod a merched Cymru."
Ychwanegodd: "I fi fel mam, mae'n ffantastic i dangos y llyfrau 'ma i merched fi a cael sgwrs am be' ydi pwrpas y gêm."