Elw Ystâd y Goron yn codi i dros £1 biliwn am yr ail flwyddyn yn olynol
Mae elw Ystâd y Goron wedi parhau ar ei uchaf erioed gyda chyfanswm o dros £1 biliwn.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae enillion wedi parhau ar ei uchaf erioed am yr ail flwyddyn yn olynol, sef £1.1 biliwn.
Mae pob cyngor sir yng Nghymru wedi cefnogi datganoli Ystâd y Goron.
Pleidleisiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar y pwnc ar ddechrau mis Mehefin, yr olaf o’r 22 awdurdod lleol i wneud hynny.
Mae Ystâd y Goron yn berchen ar 65% o draethau ac afonydd Cymru, yn ogystal â dros 50,000 acr o dir.
Mae’r arian yn mynd i’r Trysorlys ond mae canran ohono, sy’n cael ei benderfynu gan Lywodraeth y DU yn cael ei dalu yn ôl i’r Teulu Brenhinol.
Mae'r cyfrifoldeb am Ystâd y Goron eisoes wedi'i ddatganoli i Lywodraeth yr Alban ac yn 2023 fe ddaeth £103.6 miliwn i goffrau cyhoeddus y wlad.
£1.07 biliwn
Erbyn hyn mae'r Trysorlys wedi cael £5 biliwn dros y ddegawd ddiwethaf trwy asedau Ystâd y Goron.
Ond mae disgwyl i swm yr elw ddisgyn, a hynny wrth i'r hwb tymor byr i ffermydd gwynt ar y môr bylu.
Dros y ddwy flynedd diwethaf mae'r elw wedi codi i'r uchaf erioed oherwydd ffioedd opsiynol - taliadau gan gwmnïau i gadw rhan o wely'r môr er mwyn adeiladu ffermydd gwynt arnynt.
Mae Ystâd y Goron yn dweud bod disgwyl i nifer y cwmnïau sydd yn prynu ffioedd opsiynol ddisgyn yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Eu amcangyfrifiad nhw yw y bydd y ffigwr yn gostwng yn sylweddol o £1.07 biliwn y flwyddyn yn 2024/25 i tua £25 miliwn y flwyddyn o fis Ionawr 2026.
Mae hynny oherwydd bod prosiectau ffermydd gwynt ar y môr yn dechrau cael eu hadeiladu.
Mae Ystâd y Goron yn berchen ar ran fwyaf o wely môr y DU.
'Cyfnod heriol'
Mae Dan Labbad, Prif Weithredwr Ystâd y Goron yn dweud bod Ystâd y Goron yn cael eu heffeithio yn yr un ffordd â busnesau.
"Daw canlyniadau eleni mewn cyfnod o aflonyddwch economegol byd eang, sydd yn arwyddocaol," meddai.
"Mae hyn yn effeithio ar y DU ac Ystâd y Goron yn yr un ffordd ac y mae'n effeithio gwledydd a busnesau.
"Mae hyn wedi golygu cyfnod mwy heriol."
Dangosodd y canlyniadau eleni fod gwerth tir ac asedau Ystâd y Goron yn £15 biliwn yn 2024/25, gostyngiad o £15.5 biliwn ers y flwyddyn flaenorol.
Daw'r ffigurau ar ôl i Bil Ystâd y Goron newydd gael ei basio yn gynharach eleni, gan roi mwy o bwerau buddsoddi a benthyg.
Mae'r Trysorlys wedi dweud y bydd y newidiadau'n caniatáu i Ystâd y Goron fuddsoddi mwy mewn ynni gwyrdd a helpu'r DU i gyflawni net sero.