Saith bustach wedi eu dwyn o ardal Hendy-gwyn
01/07/2025
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i saith o fustach gael eu dwyn o gaeau yn ardal Hendy-gwyn yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y bustach eu cymryd rhwng y 9fed a 29 o Fehefin, medden nhw.
Maent yn frid cymysg o Angus, Limosuine a Swydd Henffordd.
Yn ôl swyddogion dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu trwy ffonio 101 a rhoi'r cyfeirnod 25000527273.
Llun: Javier Balseiro.