'Cymro gwirioneddol': Teyrngedau i'r canwr opera Stuart Burrows
'Cymro gwirioneddol': Teyrngedau i'r canwr opera Stuart Burrows
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r canwr opera Stuart Burrows sydd wedi marw'n 92 oed yn dilyn cyfnod byr o waeledd.
Yn enedigol o Gilfynydd yn Rhondda Cynon Taf, fe ddechreuodd ei yrfa fel athro ym Margoed ond daeth ei ddawn fel tenor a'i enw i amlygrwydd yn fuan wedyn.
Daeth yn enwog am ganu rhai o ddarnau clasurol Puccini, Verdi, Mozart a Donizetti yn ystod ei yrfa ddisglair.
Fe berfformiodd gydag Opera Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 1963.
Erbyn 1978 roedd yn canu yn theatr opera enwog La Scala ym Milan, ac fe berfformiodd gyda Opera'r Met yn Efrog Newydd yn yr UDA am 12 tymor yn ystod ei yrfa.
Fe droediodd lwyfan Neuadd Carnegie yn Efrog Newydd hefyd, a pherfformio yn y Tŷ Opera Brenhinol yn Llundain.
Derbyniodd Ddoethuriaeth Anrhydeddus o Brifysgol Cymru ym 1981, Cymrodoriaeth Coleg y Drindod, Caerfyrddin ym 1989, ac fe dderbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Aberystwyth hefyd.
Yn 2007 fe dderbyniodd OBE am ei wasanaeth i gerddoriaeth.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1939733328367669530
'Cymro gwirioneddol'
Mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei fab Mark: "Ni all geiriau fynegi faint y byddaf yn colli'r Cymro gwirioneddol hwn a oedd (fel yr oedd yn hoffi dweud) wrth ei fodd yn canu ychydig!"
Dywedodd y canwr opera o Gymru, Beverley Humphreys, fod Burrows wedi cael "gyrfa ryfeddol".
"Roedd yn un o denoriaid Mozart gorau'r byd – O La Scala i'r Met a Covent Garden," meddai.
"Roedd harddwch ei lais, ei sensitifrwydd a'i gerddoriaeth oedd wedi'i fireinio heb eu hail."
Dywedodd BBC Radio Wales fod gan Burrows y gallu prin i ganu nid yn unig mewn opera, ond mewn llawer o genres gwahanol.
"Fe wnaeth ei lais a'i bersonoliaeth gynnes gyffwrdd â chalonnau ledled y byd," meddai'r darlledwr.
Dywedodd Côr Meibion Morlais: "Gyda thristwch mawr yr ydym wedi clywed am farwolaeth ein Llywydd, Stuart Burrows.
"Ffrind mawr i'r côr a braint oedd cael rhannu'r llwyfan gydag ef ar sawl achlysur.
"Mae ein meddyliau gyda'i deulu yn ystod yr amser trist hwn."
Dywedodd Côr Meibion Cymry Llundain: "Rydym yn drist iawn o glywed am farwolaeth Stuart Burrows.
"Canwr gwych y cawsom y pleser o weithio gydag ef ar sawl achlysur dros y blynyddoedd ac yr oeddem yn falch o'i gael fel Is-lywydd.
"Ein meddyliau, ein cydymdeimlad a'n cariad i'w holl deulu. Gorffwyswch mewn cân, syr."