
Mwy yn gwirfoddoli oherwydd 'heriau economaidd'?
Mwy yn gwirfoddoli oherwydd 'heriau economaidd'?
Fe allai cynnydd yn nifer y bobl sy'n penderfynu gwirfoddoli fod o ganlyniad i doriadau i’r wladwriaeth les, yn ôl academydd o Brifysgol Bangor.
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae bron i un o bob tri yn gwirfoddoli yn eu cymunedau erbyn hyn.
Yn ôl Dr Cynog Prys sy’n Uwch-ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, mae'r cynnydd o bosibl oherwydd fod nifer o wasanaethau cyhoeddus wedi dod i ben, a bod pobl ar lawr gwlad yn “llenwi’r bwlch”.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi buddsoddi £4.6m mewn cynlluniau i annog gwirfoddoli.
Yng Nghaernarfon mae siop 'O Law i Law' ar Stryd y Llyn yn cynnig bwyd sydd wedi dod o archfarchnadoedd, am ddim dros y penwythnos.
Mae hefyd yn derbyn rhoddion ac yn gwerthu teganau, llyfrau a dillad am brif rhesymol i deuluoedd sydd eu hangen.
Mae’r siop yn ddibynnol ar nifer o wirfoddolwyr fel Ann Hopcyn sy’n gynghorydd tref yng Nghaernarfon.
“Pam bod i’n gwirfoddoli, wel... ni’n gweld bod hyn yn beth da i wneud”, meddai.
“Ni’n arbed pethau rhag mynd i landfill, ac yn arbed arian i deuluoedd ifanc sydd eisiau magu plant.
“Mae nifer o fam gu a tad-cuoedd yn siopa yma hefyd.
“Dwi’n credu mai gweld bod o’n gwneud lles i’r gymuned a chefnogi’r gymunedau.. dyna pam dwi’n gwirfoddoli yn sicr”.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw wedi buddsoddi £4.5m ers 2022 ar brosiectau gwirfoddoli a bod hynny wedi arwain at mwy na 419,000 awr o wirfoddoli ac hyfforddiant i 6,710 o bobl drwy’r wlad.
'Llenwi bwlch'
Ond mae'r Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor yn dweud y gallai’r cynnydd yn nifer y gwirfoddolwyr ddeillio o heriau economaidd.
“Mae bosib dadlau bod rhai gwasanaethau wedi cael eu cynnig, yn hanesyddol gan y wladwriaeth a gan y llywodraeth i drigolion Cymru ond bod rhai o rheini wedi mynd bellach”
“Felly mae gofyn i bobl Cymru gamu mewn i gynnig y gwasanaethau yna a llenwi’r bwlch ar liwt eu hunain.
“Felly mae ‘na elfen feirniadol bod hwn yn dangos tystiolaeth o hynny o fewn y gymdeithas,” meddai.

Un digwyddiad wythnosol sy’n gwbl ddibynnol ar wirfoddolwyr ydi Park Run- taith 5k sy’n cael ei chynnal ar draws nifer o lefydd drwy’r Deyrnas Unedig.
Mae un yn cael ei chynnal ar stad y Penrhyn ym Mangor, a Gwyn Williams yw un o’r selogion sydd wedi gwirfoddoli bob fore Sadwrn, bron ers dechrau’r her.
“Fyddai bob tro yn teimlo’n hapusach ar ôl bod yma”, meddai.
“Dydi rhedeg, dwi’n meddwl ddim yn beth braf, ond mae cael gair efo pawb cyn y cychwyn, a dweud wrth y bobl newydd pa ffordd i fynd, neu lle mae’r toiledau.. mae’n gwneud dipyn o wahaniaeth i mi.
“Mae’n neud fi’n hapus bob tro”.

Ategu hynny wnaeth cyfarwyddwr y ras Steffan Evans.
“Pan ti’n gwirfoddoli ti’n rhoi amser dy hun i fyny i bobl eraill a dwi yn meddwl bod pobl yn gwerthfawrogi hynna”.