Georgia Evans yn ymateb i sylwadau sarhaus am ei hedrychiad
Mae chwaraewraig ail-reng Cymru, Georgia Evans wedi ymateb ar ôl iddi dderbyn sylwadau sarhaus am ei hedrychiad.
Cafodd y sylwadau eu gwneud ar gyfryngau cymdeithasol wedi i Gymru golli yn erbyn Canada ddydd Sadwrn yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
Cafodd ei pherfformiad unigol hi ei ganmol gan sylwebwyr.
Mae Evans yn aml yn rhoi rhubanau yn ei gwallt tra'n chwarae.
"Mae'n ymddangos bod fy edrychiad wedi pechu rhai pobl... ac am hynny dydw i wir ddim yn ymddiheuro," meddai.
Collodd Cymru’n drwm o 42-0 yn erbyn Canada sy’n ail yn netholion y byd.
“Dydy Cymru heb fod ar ein gorau. Ond, 'dw i ddim yma i wneud esgusodion,” ychwanegodd.
Yn ôl y chwaraewraig sydd wedi chwarae dros Gymru ers 2020, mae’r bencampwriaeth eleni yn rhoi’r cyfle i ddangos “beth sy'n bosib o fewn y gêm.”
“Yr hyn ddyweda i – y rhwymyn yn fy ngwallt, y tâp ar fy mraich, fy amrannau a llond wyneb o golur - sef yr hyn yr ydw i'n dewis ei wisgo - dyw hynny'n effeithio dim ar fy ngallu, a fy angerdd dros y gêm hon.”
'Plentynnaidd'
Esboniodd Evans yn 2021 ei bod yn gwisgo rhubanau am eu bod yn rhoi edrychiad unigryw iddi.
Yn y datganiad wedi'r gêm ddydd Sadwrn, pwysleisiodd Evans, sydd hefyd yn chwarae i dîm y Saraseniaid, bod y gamp wedi newid bellach.
“Dyw chwaraewr rygbi ddim yn cael ei ddiffinio gan eich rhyw na sut rydych chi’n edrych, bellach. Mae'n blentynnaidd... ac i bob merch ifanc, rhaid deall nad oes rhaid i chi gyfaddawdu.”
“Rwy’n dod â bach o Barbie i’r parti”
“I bawb sydd ddim yn ffan, mae hynny’n iawn. I bawb sy’n fy nghefnogi ac yn fy ngharu – diolch. Peidiwch â phoeni, ni fydda i’n newid.”
Bydd ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd yn dod i ben ddydd Sadwrn, wrth iddyn nhw herio Ffiji yng ngêm olaf y grŵp.
Llun: Asiantaeth Huw Evans