Arestio dyn wedi marwolaeth dynes mewn gwrthdrawiad yn Llandudno
Mae dyn wedi cael ei arestio wedi marwolaeth dynes 89 oed yn dilyn gwrthdrawiad yn Llandudno ddydd Llun.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 09:00 ar Stryd Brookes oddi ar Ffordd Caroline, rhwng cerddwr a lori ailgylchu Cyngor Sir Conwy.
Fe wnaeth y gwasanaethau brys fynychu gan gynnwys yr Ambiwlans Awyr, ond bu farw'r ddynes 89 oed yn y fan a'r lle.
Dywedodd y Sarjant Duncan Logan o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: "Mae teulu agosaf y ddynes wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion, ac rydym yn meddwl amdanyn nhw yn ystod y cyfnod anodd ofnadwy yma.
"Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ac fe alla i gadarnhau fod dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus, ac mae'n parhau yn y ddalfa."
Ychwanegodd ei fod yn annog unrhyw un oedd yn yr ardal gyfagos i gysylltu â'r heddlu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000723615.