Newyddion S4C

Ewro 2025: Penodi'r bardd Sarah McCreadie i gofnodi campau menywod Cymru

Sarah McCreadie

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi penodi'r bardd Sarah McCreadie i ysgrifennu 15 o gerddi am ymdrechion menywod Cymru ym mhencampwriaeth yr Ewros yn y Swistir.

Mae Sarah McCreadie yn fardd o Gaerdydd sydd yn byw yn Brixton, de Llundain ar hyn o bryd. 

Mae hi wedi perfformio ei barddoniaeth o Gasnewydd i Efrog Newydd. Enwyd hi yn un o Feirdd y Flwyddyn Craig Charles ar BBC Radio 6Music. 

Bu’n un o Feirdd Ifanc y Barbican, yn fardd ‘Words First’ BBC 1Xtra, ac yn artist preswyl yn y Roundhouse. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi yn Saesneg ac yn ddwyieithog, ac mae wedi ysgrifennu cerddi i sefydliadau a chyhoeddiadau amrywiol, o Vanity Fair i Match of the Day.

Mae Sarah ar siwrne i ddysgu Cymraeg, ac y mae eisoes yn plethu geiriau Cymraeg i’w cherddi. Ar gyfer y prosiect hwn, bydd yn cydweithio gyda’r bardd Marged Tudur, i gyfieithu rhai o’i darnau i’r Gymraeg.

Mae Marged yn fardd, golygydd a darlithydd o Forfa Nefyn, sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae hi’n darlithio yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

'Breuddwyd'

Dywedodd Sarah McCreadie : Mae’r cyfle yma’n freuddwyd llwyr imi! Mae’n gymaint o fraint i gael llenwi rôl Bardd EWRO 2025 Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen ac yn llawn cyffro i ddechrau ar y gwaith.

“Mae pêl-droed a barddoniaeth yn bwerau mawr yn fy mywyd, ac yn fy marn i, maen nhw’n cydblethu’n berffaith – yn enwedig yng Nghymru. Llên gwerin y gêm, ein hunaniaeth, ergyd fedrus Fishlock o’r bêl, caneuon Y Wal Goch – barddonol, bob un!

“Fel pob un o gefnogwyr Cymru, rwy’n angerddol dros gêm y menywod, ac eisiau helpu ei chodi ymhellach. Allaf i ddim aros i wneud hyn trwy fy marddoniaeth. Mae gweld ein menywod mewn twrnamaint mawr fel hwn yn foment hanesyddol, ac mae’n fraint cael rhoi pensil ar bapur i gofnodi ein hantur. Cymru am byth!”

Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon a Diwylliant, Jack Sargeant: “Mae penodiad Sarah fel Bardd EWRO 2025 Cymru yn cysylltu ein traddodiad barddol cyfoethog gyda’n tîm menywod a’n dathlu cyrraedd carreg filltir bwysig. Mae’r cydweithio hwn yn enghraifft o greadigrwydd Cymru ar ei gorau, gan ddathlu ein treftadaeth ddiwylliannol a’n llwyddiannau ym myd y campau.

“Bydd y prosiect hwn, a gefnogir gan Gronfa Cymorth Partner Ewro 2025 Llywodraeth Cymru gwerth £1 miliwn, yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf tra hefyd yn hyrwyddo gwerthoedd Cymru yn fyd-eang. Mae angerdd Sarah dros farddoniaeth a phêl-droed yn ei gwneud hi’r dewis perffaith i gofnodi taith hanesyddol ein tîm menywod Cymru, a bydd cyfieithiadau Marged Tudur yn sicrhau fod hyd yn oed rhagor yn gallu cael blas ar ei gwaith.”

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.