
Aelod o fand pync eisiau 'tyfu’n hen yn gywilyddus'
“Mae pobl yn meddwl - ‘Nanas - old person chair, knitting, whatever. Nanas kick ass!’ ”
I Jude Price y nod yw tyfu’n hen “yn gywilyddus”. Hi sydd tu ôl i’r syniad o sefydlu’r grŵp Nana Punk.
Fe gafodd y band ei ffurfio ar ôl dechrau prosiect cymunedol oedd yn rhoi cyfle i ferched hŷn ddod at ei gilydd i wneud cerddoriaeth.
Roedd y fenter yn bartneriaeth rhwng Jude, Canolfan Mileniwm Cymru a’r cerddor Efa Supertramp.
Mewn rhaglen ar gyfer S4C, mae Efa Supertramp yn ein tywys ni drwy'r hanes o sefydlu'r band hyd at eu perfformiad byw yn Llundain.
Mae'r rhaglen yn rhan o'r cynllun 'It's my Shout' sydd yn arbenigo mewn darganfod a datblygu talent ar gyfer y diwydiant ffilm.
I Izzy Rabey, sydd wedi bod yn mentora'r aelodau mae’r prosiect wedi bod yn un “unigryw”.
“I fi mae hwn yn rhywbeth rili, rili arbennig.
"A fi jest yn credu o ran menywod 'fyd, ni dal yn demograffig rili rili fach o ran pa mor gweladwy i ni yn y byd cerddoriaeth.”

Ar ddechrau 2023 fe gafodd Jude strôc. Roedd yn rhaid iddi ail ddysgu siarad Saesneg a Chymraeg a sgiliau byw.
Ond erbyn haf 2024 roedd hi am gychwyn chwarae cerddoriaeth unwaith eto. Fe aeth ati i ail gychwyn y prosiect a dod o hyd i fenywod i gychwyn y band Nana Punk gyda hi.
Nawr mae’n cael gwersi drymiau ac wedi sylwi ar welliant yn ei cherdded ers dechrau’r gwersi hynny. Mae hefyd yn cael gwersi dysgu Cymraeg dwys ym Mhrifysgol Caerdydd.
“Mae bywyd yn ddigon anodd fel ma hi", meddai.
"Weithiau mae rhannu profiad, os ydych chi wedi profi rhywbeth ac wedi bod trwy’r felin mae gennych chi dosturi tuag at bobl sydd yn profi adegau mwy anodd.
"Mae hyn yn ymwneud gyda adfer y gofod, a’r hen fi yr oeddwn i o’r blaen,” meddai Jude.
Mae’r band yn cael cyfle i chwarae yn y dafarn Hope and Anchor yn Islington, Llundain.
Yn ystod y 70au a’r 80au fe wnaeth enwau mawr fel The Clash, The Cure, Madness a Dire Straits berfformio yno. Maent yn chwarae set o ganeuon pync a rhai y maen nhw wedi eu cyfansoddi eu hunain gan gynnwys cân yn Gymraeg.
I Deb, sydd yn chwarae’r ffidil yn y grŵp, mae’r prosiect wedi bod yn dda i’w hunan hyder.
“Mae wedi bod yn rhyddhad fawr i fi. Doeddwn i ddim yn meddwl bo fi byth yn gallu jamio gyda band ond mae wedi bod yn fwy a mwy hawdd.
"Mae’r prosiectau yma yn dangos i bobl rwyt ti yn gallu cario ymlaen, cael hwyl beth bynnag yw eich oedran. Rili da i cadw ymlaen, cadw ymlaen. Neud beth bynnag ti eisiau.”
Bydd modd gwylio Nana Punk ar 14 Gorffennaf am 22:00 ar S4C, BBC iPlayer a Clic ac YouTube Hansh.