Newyddion S4C

Achub bywyd cath saith wythnos oed a gafodd ei darganfod mewn cwpwrdd

Sox y gath

Mae cath saith wythnos oed a gafodd ei darganfod mewn cwpwrdd wedi cael ei hachub.

Cafodd Sox ei darganfod mewn cwpwrdd crasu dillad yn Wrecsam pan oedd yn llai na dwy wythnos oed.

Er i ddyn edrych ar ei hôl a'i bwydo am gyfnod nid oedd yn gallu gofalu amdani yn yr hir dymor oherwydd ei waith.

Fe aeth y dyn â hi i elusen South Wirral Cats Protection sydd ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Mae'r elusen yn codi arian er mwyn talu am gostau milfeddygol Sox.

Image
Sox y gath

Dywedodd yr elusen bod Sox yn gwella, ond bod angen gofal parhaus arni.

"Mae hi wedi bod yn derbyn gofal milfeddygol ac yn derbyn gofal trwy'r dydd gan ein gwirfoddolwyr anhygoel," meddai'r elusen.

"Roedd angen ei bwydo bob dwy i dair awr ac mae Sox yn gwella nawr, ond mae hi angen cymorth er mwyn talu am gostau parhaus milfeddygon a nwyddau fydd yn ei chadw'n iach.

"Mae'r gofal mae Sox wedi derbyn wedi achub ei bywyd, ac mae hi'n cryfhau mwy a mwy bob dydd.

"Ond mae gofalu am ein cathod sâl yn ddrud, ac rydym yn dibynnu ar roddion er mwyn parhau i ofalu amdanynt."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.