
Pwy yw'r Cymry sydd yn arwain rhai o brosiectau gwyddonol mwya’r byd?
Mae CERN yn un o sefydliadau gwyddonol mwya'r byd, ac mae unigolion o Gymru ymhlith y gwyddonwyr sydd wedi arwain rhai o'i phrosiectau.
Wedi ei sefydlu yn 1954 mae'r sefydliad yn cynnwys 17,000 o bobol ac yn cynrychioli 110 o genhedloedd ar draws y byd, gan gynnwys Cymru.
Maen nhw'n sefydliad sy'n gweithredu'r labordy astudiaeth ffiseg gronynnau mwyaf yn y byd sydd wedi ei leoli yn Genefa yn y Swistir.
Un o’r prif arbrofion gwyddonol yn hanes CERN oedd adeiladu’r Large Hadron Collider (LHC), neu’r gwrthdarydd hadronau mawr rhwng 1998 a 2008.
Mae'n beiriant cymhleth tu hwnt sydd yn efelychu be ddigwyddodd lai nag eiliad wedi’r Glec Fawr, gan arwain at ddarganfyddiad arloesol o’r Boson Higgs.
Y Cymro, Dr Lyn Evans oedd yn arwain y prosiect hanesyddol hwn.
Dywedodd y dyn o Aberdâr: “Hwn wir yw'r prosiect gwyddonol mwyaf a mwyaf cymhleth erioed.
“Dw i’n credu nad y wyddoniaeth oedd yn ennyn diddordeb y cyhoedd, ond y syniad yma y byddai’r LHC yn y bôn yn ffrwydro’r bydysawd.
"Wrth gwrs roedden ni’n gwybod yn iawn nad oedd yn wir o gwbl, ond dwi’n cofio dweud, os oes unrhyw un yn mynd i ffrwydro’r bydysawd, pam ddim bachgen o Aberdâr."

Bydd hanes Dr Lyn Evans yn cael ei adrodd mewn cyfres newydd ar S4C sydd yn olrhain hanes sefydli CERN a'r gwaith chwyldroadol sy’n digwydd yno.
Cymro arall sydd wrth wraidd gwaith CERN yw Dr Rhodri Jones.
Cafodd Dr Jones ei fagu yng Nghaerfyrddin am ychydig fisoedd yn unig, cyn i’r teulu symud i fyw i’r Iseldiroedd.
Nawr mae'n arwain tîm o 600 o bobl yn CERN, ac yn hawlio’r teitl swydd arobryn, Pennaeth y Pelydrau. Tîm Rhodri sydd yn gyfrifol am ddarparu’r pelydrau ar gyfer pob arbrawf o fewn CERN.
Dyn arall sydd yn cyfrannu at waith y sefydliad ydy Dr Ynyr Harris o’r Felinheli, cymrawd Ymchwil ATLAS yn CERN.
“Mae ffiseg yn ffantastig,” meddai’r cyn fyfyriwr o Brifysgol Rhydychen.
“Ffiseg ydi limit chwilfrydedd dynoliaeth hyd yma. Mae CERN fel dinas bron iawn, a’r unig ddeddfau ydi ffiseg.”.