Newyddion S4C

Cadoediad bregus yn ei le rhwng Iran ac Israel

24/06/2025
Donald Trump

Mae cadoediad yn ei le rhwng Iran ac Israel ar ôl i'r ddwy wlad ymosod ar ei gilydd, ond mae'r cytundeb yn un bregus tu hwnt.

Mae Israel eisoes wedi cyhuddo Iran o dorri amodau'r cytundeb, ond mae Tehran yn gwadu hynny.   

Ac mae Arlywydd America wedi ymateb yn ffyrnig i adroddiadau fod Israel ac Iran yn dal i ymosod ar ei gilydd.  

Donald Trump wnaeth gynnig y cadoediad. Fe ddywedodd ar y cyfrwng cymdeithasol Truth Social: "Mae'r cadoediad nawr yn ei le. Plîs peidiwch â'i dorri!"

Roedd Iran wedi cytuno i'r cadoediad ond doedd hi ddim yn glir beth oedd safbwynt Israel. 

Bellach mae'r wlad wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod am weithredu'r cadoediad ar ôl "cyflawni eu nod" wrth ymosod ar Iran.

Mae'r datganiad yn dweud bod Israel wedi cael gwared â'r "bygythiad niwclear a thaflegrau gan Iran" ond y byddant yn ymateb "gyda grym" os bydd y cadoediad yn cael ei dorri. 

Nos Lun fe wnaeth Iran danio taflegrau tuag at ganolfannau milwrol America yn Qatar. 

Fe ddaeth hynny mewn ymateb i ymosodiadau'r Americanwyr ar safleoedd niwclear Iran ddydd Sadwrn. Roedd Iran wedi rhybuddio ei bod yn bwriadu gwneud hyn o flaen llaw.

Fe ymatebodd Trump trwy ddweud ei fod yn gobeithio nawr y byddai'r wlad yn gallu "mynd yn ei blaen i gael heddwch a harmoni yn y rhanbarth".

Dros nos fe barodd y taflegrau i gael eu tanio gan y ddwy wlad at ei gilydd. Fe gafodd bedwar o bobl eu lladd meddai Israel. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.