Gareth Bale dal yn 'obeithiol' y gall brynu clwb pêl droed Caerdydd
Mae Gareth Bale yn dweud ei fod dal yn "obeithiol" y bydd cynnig mae'n rhan ohono i brynu clwb pêl droed Caerdydd yn llwyddo.
Roedd cyn-gapten Cymru yn rhan o gais aflwyddiannus i brynu'r clwb yn ddiweddar wedi trafodaethau gyda'r perchennog presennol Vincent Tan.
Y gred yw bod Vincent Tan ddim eisiau gwerthu'r clwb, sydd newydd ddisgyn o'r Bencampwriaeth i Adran Un.
Ond mae Bale yn gobeithio y bydd yr ymgais yn llwyddiannus yn y dyfodol agos.
"Mae'n rhywbeth dwi'n rhan ohono," meddai wrth Sky Sports.
"Rydym wedi bod yn trafod, ceisio cael sgyrsiau gyda Chaerdydd, ond bydd mwy o newyddion ar hynny yn y dyfodol.
"Gobeithio y gallwn ni gyflawni rhywbeth."
'Gwireddu breuddwyd'
Cafodd Bale ei eni yng Nghaerdydd, ond nid yw erioed wedi chwarae i'r clwb.
Cyn cwpan y Byd 2022 roedd sibrydion y byddai'n ymuno â'r clwb, ond fe wnaeth Bale arwyddo i Los Angeles FC yn America.
Yn ystod ei yrfa mae Bale wedi sgorio 41 o goliau i Gymru, ennill Cynghrair y Pencampwyr a'r La Liga yn ogystal â llu o wobrau unigol.
Ond fe fyddai fod yn berchennog ar Gaerdydd yn "gwireddu breuddwyd" iddo.
"I fod yn rhan o grŵp sydd yn berchen ar y clwb, byddai hynny'n gwireddu breuddwyd," meddai.
"Mae'n glwb sydd yn agos at fy nghalon, lle tyfais i fyny. Byddwn i wrth fy modd gallu chwarae rhan yn tyfu'r clwb a'i ddychwelyd i'r Uwch Gynghrair lle mae'n haeddu bod.
"Dwi'n gwybod pa mor o anhygoel yw cefnogwyr Cymreig a chefnogwyr Caerdydd ac fe fyddai'n wych ceisio gwneud pethau gyda'n gilydd."