Newyddion S4C

Sioned Dafydd: Gobaith am 'undod' wrth gefnogi timau menywod a dynion Cymru

Sioned Dafydd: Gobaith am 'undod' wrth gefnogi timau menywod a dynion Cymru

Mae'r gohebydd a chyflwynydd pêl-droed Sioned Dafydd yn gobeithio bydd "undod" wrth gefnogi timau menywod a dynion Cymru ar drothwy Ewro 2025.

Bydd tîm y menywod yn chwarae yn eu prif gystadleuaeth gyntaf fis nesaf, sef Euro 2025 yn y Swistir.

Gyda llai na phythefnos cyn dechrau'r ymgyrch hanesyddol mae Sioned Dafydd yn gobeithio y gall y gystadleuaeth arwain at gefnogi timau menywod a dynion Cymru fel un.

"Fi’n rili gobeithio bod hwnna yn mynd i ddigwydd, bod ni ddim yn trin nhw fel dau dîm ar wahân," meddai wrth Newyddion S4C.

"Bod ni yn cyrraedd pwynt yn y dyfodol ble os ‘y’ch chi’n mynd i Stadiwm Dinas Caerdydd i weld y dynion, wel ‘y’ch chi yna i weld y menywod hefyd.

"Fi wir, wir yn gobeithio bod yr undod yna yn digwydd yn ystod y twrnament ond hefyd ar ôl."

'Agor y drws'

Bydd tîm Rhian Wilkinson yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 5 Gorffennaf.

Wedi hynny bydd Cymru yn wynebu Ffrainc a phencampwyr presennol yr Euros, Lloegr.

Ddydd Sul teithiodd chwaraewyr Cymru o Faes Awyr Caerdydd i Bortiwgal er mwyn ymarfer cyn teithio i'r Swistir.

Daeth torf o gefnogwyr at ei gilydd yn y maes awyr er mwyn ffarwelio â'r chwaraewyr.

Mae Sioned Dafydd yn credu y bydd yna gyffro wrth i Gymru chwarae yn Euro 2025, ond bod angen sicrhau bod hynny'n para tu hwnt i'r gystadleuaeth.

"Fi’n credu un peth ma’ rhaid ni gofio yw, oce fe fydd na buzz enfawr haf yma, ond ‘y’n ni ffili jyst cael y buzz yna am cwpl o wythnosau, neu mwy na hynny gobeithio," meddai.

"Fi wir yn gobeitho haf 'ma neith gweld tîm cynta' menywod Cymru agor y drws jyst i bobl mynd 'o, ma' Abertawe neu ma' menywod Pen-y-bont yn 'whare, nai fynd a plant fi i weld hwnna.'

"Hefyd ni ishe nhw i chware. Ma’n grêt bod nhw'n gwylio ond ni mo'yn bod merched bach Cymru yn cael eu hysbrydoli haf yma i fynd mas a cico pêl, ac un dydd bod y Jess Fichlock nesa' a chware i Gymru."

Ychwanegodd fod sawl cyfle i gefnogi pêl-droed menywod tu allan i'r timoedd cenedlaethol.

"Ma’ ‘na gynghreiriau domestig ffantastig gyda ni yng Nghymru hefyd," meddai.

"So ma’ clybiau Wrecsam, Abertawe, Caerdydd, ma’ ‘na timau menywod gyda nhw hefyd sy’n cystadlu ar y lefel ucha’ yma yng Nghymru.

"Ma’ ‘na chwaraewyr sy’n ‘whare i Bryste ac ati yn y WSL. Ma’ ‘na gymaint o bethau tu fas i’r timau cenedlaethol, cymaint o gyfleoedd i fynd i gefnogi’r menywod yma sydd jyst yn hollol ffantastig."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.