Sir Conwy: Plentyn chwech oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad â cherbyd
Mae plentyn chwech oed wedi marw a dyn wedi ei arestio ar ôl gwrthdrawiad yn Llanfairfechan yn Sir Conwy.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r dref toc wedi 17.00 ar ôl adroddiadau am wrthdrawiad rhwng cerbyd a phlentyn.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Yn anffodus, er ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw bachgen chwech oed.
"Mae'r teulu'n cael eu cefnogi gan Gydgysylltwyr Cyswllt â Theuluoedd sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig."
Mae dyn 39 oed wedi cael ei arestio ac mae'n helpu gydag ymholiadau'r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r bachgen ifanc ar yr adeg anodd iawn hon."
Mae ymchwiliad i'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r gwrthdrawiad yn parhau ac mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a allai fod â lluniau dashcam o'r ardal ar y pryd, i gysylltu â nhw trwy ffonio 101, gyda’r cyfeirnod O162122.