Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru'n sicrhau buddugoliaeth dros Norwy
Mae Cymru wedi ennill eu gêm gyntaf yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA eleni ar ôl sicrhau buddugoliaeth o 2-1 dros Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Neco Williams sgoriodd y gôl hollbwysig yn gynnar yn yr ail hanner i sicrhau triphwynt cyntaf ei wlad yn y gystadleuaeth.
Roedd Craig Bellamy wedi gwneud pum newid i dîm Cymru gyda Ben Cabango, Jay Dasilva, Jordan James, Liam Cullen a Lewis Koumas yn cychwyn y gêm.
Yr her oedd yn wynebu Cabango a’r capten Ben Davies oedd ceisio gadw un o ymosodwyr gorau’r byd, Erling Haaland, yn dawel.
Gyda’r Wal Goch yn fyddarol, dechreuodd y cochion yn llawn egni a hyder.
Ond wedi 10 munud, fe aeth Norwy ar y blaen ar ôl i Oscar Bobb lithro’r bêl i’r gongl waelod ar ôl pas deallus gan seren Arsenal, Martin Ødegaard.
Roedd ymateb y Cymry i ildio’r gôl yn gadarnhaol.
Roedd cyfle i unioni dri munud yn ddiweddarach ond ceisiodd Sorba Thomas i basio yn lle ergydio mewn safle hynod addawol yng nghwrt cosbi’r Norwyiaid.
Roedd yr ymosodwr Lewis Koumas yn achosi cur pen i amddiffynwyr Norwy, tra bod un croesiad peryglus gan Thomas wedi’i gyfeirio modfeddi heibio’r postyn gan ben amddiffynnwr Norwy, Kristoffer Ajer.
Daeth y gôl haeddiannol - y gyntaf i Gymru yn eu hymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd eleni - wedi 38 munud.
Dan James oedd yn y fan a’r lle i ysgubo croesiad isel Thomas i gefn y rhwyd ar ôl i Liam Cullen ennill meddiant y tu allan i gwrt cosbi Norwy. Hanner amser, Cymru 1 Norwy 1.
Ail hanner
Pymtheg eiliad yn unig ar ôl cic gyntaf yr ail hanner ac fe gafodd Cymru hwb anferthol, wedi i Torbjørn Heggem dderbyn cerdyn coch am dynnu Dan James i lawr y tu allan i’r cwrt cosbi.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/2105748064463978528?s=20
Ac fe wnaeth Neco Williams goroni dechreuad perffaith Gymru i’r ail hanner drwy grymanu’r gic rydd i gongl waelod y rhwyd i roi’r tîm cartref ar y blaen.
Gyda’r fantais o ddyn ychwanegol, fe wnaeth y tîm cartref reoli’r meddiant a cheisio chwilio am drydedd gôl gyda Thomas, Koumas a James yn fygythiol dros ben.
Ar ôl rhoi cyfres o groesiadau peryglus i’r cwrt cosbi, daeth Thomas yn agos i’r targed gydag ergyd isel bwerus.
Wedi 77 munud, fe wnaeth y golwr Ørjan Nyland arbediad gwych i atal yr eilydd Josh Sheehan rhag sgorio dros Gymru, ar ôl pas hyfryd o’r chwith gan Thomas, oedd yn parhau i serennu.
Wedi 80 munud daeth cyfle gwirioneddol cyntaf y cawr Haaland, ond fe beniodd croesiad yn syth i ddwylo Danny Ward.
Ym mhen arall y cae, fe wnaeth eilydd Mark Harris gorfodi arbediad arall gan Nyland gydag ergyd.
Roedd eilyddion Norwy hefyd yn cael effaith. Taniodd Jørgen Strand Larsen ymdrech bwerus droedfedd heibio postyn Ward wrth i’r tîm oddi cartref edrych i ddod yn gyfartal ym munudau ola’r gêm.
Ond fe lwyddodd y Cymry i rwystro Norwy am weddill y gêm a sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf mewn saith gêm.
Bydd y perfformiad a'r canlyniad yn hwb mawr i Bellamy a'i dîm wrth iddyn nhw groesawu Denmarc i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul.