Môn: Peilotiaid RAF 'adref ac yn gwella' ar ôl damwain

Llun: Danni Jones
Awyren RAF Y Fali Ynys Mon

Mae’r ddau beilot oedd yn rhan o’r ddamwain ger RAF y Fali ddydd Mercher yr wythnos diwethaf bellach "wedi dychwelyd adref ac yn gwella," meddai'r llu awyr.

Bu’n rhaid i'r ddau ddianc o'r awyren Hawk T2 drwy ddefnyddio parasiwtiau, cyn iddi ddisgyn i'r ddaear ger tai cyfagos ym Mhencarnisiog wrth safle RAF Y Fali ar 23 Medi.

Er i’r awyren ffrwydro ar ôl taro’r tir, oedd ger maes carafanau, ni chafodd unrhyw anafiadau eu hadrodd na difrod i unrhyw adeiladau.

Mewn datganiad dywedodd RAF y Fali bod y peilotiaid yn "diolch o galon i’r gwasanaethau brys ac i bawb a’u cefnogodd yn syth ar ôl y digwyddiad". 

"Maen nhw hefyd yn ddiolchgar iawn am y caredigrwydd, yr anogaeth a’r dymuniadau da gan bobl ledled y byd, ac yn enwedig eu cydweithwyr yn yr RAF a phobl Ynys Môn," medden nhw.

"Mae’r gefnogaeth dros yr wythnos ddiwethaf wedi golygu llawer iawn i’r peilotiaid a’u teuluoedd wrth iddyn nhw ddechrau gwella gartref. 

"Gofynnwn yn garedig i chi barchu preifatrwydd y rhai dan sylw wrth iddyn nhw wella. Mae’r ymchwiliad yn parhau.

"Diolch am eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth barhaus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.