Cyngor i 'ail-edrych' ar ddyfodol pont hanfodol gafodd ei dinistrio mewn storm
Mae arweinydd newydd Cyngor Sir Ddinbych yn dweud y bydd yn ail-edrych ar benderfyniadau ei ragflaenydd am ailadeiladu Pont Llannerch, yn ogystal â pholisïau ar ailgylchu, llyfrgelloedd a thoiledau cyhoeddus.
Roedd y Cynghorydd Hugh Evans yn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis yn ystod cyfarfod cabinet y cyngor yn Neuadd y Sir yn Rhuthun ddydd Mawrth.
Yn ystod y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Evans y byddai’n adolygu “nifer o benderfyniadau” ond na allai “addo unrhyw beth” ar hyn o bryd, gan cyfeirio at risgiau i’r gyllideb.
Gofynnodd y Cynghorydd Ellis wrth yr arweinydd am sawl agwedd, gan gynnwys gwasanaethau ailgylchu a dyfodol Pont Llannerch.
Cafodd y bont ei dinistrio yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr 2021, gan gau’r ffordd rhwng Trefnant a Thremeirchion.
Fe gefnodd yr awdurdod dan ei arweinyddiaeth blaenorol ar gynlluniau i ailgodi’r bont, er i’r cyngor wario £1.5m o arian Llywodraeth Cymru i ddylunio’r strwythr newydd.
Ar y pryd, rhybuddiodd swyddogion y sir y gallai gwaith drilio yng ngwely’r afon halogi cyflenwad dŵr i 85,000 o gartrefi, gan adael yr awdurdod o bosib yn atebol am iawndal gwerth miliynau o bunnoedd.
Wrth siarad ddydd Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Evans nad oedd yn fodlon gyda'r sefyllfa bresennol ac ei fod eisiau gweld a oedd modd dod o hyd i ddatrysiad peirianyddol.
Dywedodd: “O ran Pont Llannerch, ‘dan ni’n adolygu'r sefyllfa. Dydw i ddim yn hapus i roi'r prosiect hwn ar y silff. Ac mae'n rhaid bod datrysiad peirianyddol yn rhywle ar ei gyfer.
“Mae'n rhaid mai ni ydy’r unig awdurdod yng Nghymru sydd heb gynlluniau i ailgodi pont pan fydd un yn syrthio. Mae cymunedau wedi'u hollti. A dydw i ddim yn deall hynny. Pam does dim cynllun roi pethau’n ôl at ei gilydd?
“Felly dwi’n awyddus i weld beth allwn ni ei wneud gyda Phont Llannerch. Fedra’ i addo dim, ond ‘dan ni’n adolygu'r sefyllfa bresennol.”
Ailgylchu a llyfrgelloedd
Hefyd, holodd y Cynghorydd Ellis y Cynghorydd Evans am ailgylchu. Lansiwyd cynllun Trolibocs yn haf 2024 ond costiodd filiynau i'r awdurdod yn y pen draw oherwydd yr angen i ddelio â channoedd o gasgliadau hwyr a rhai a fethodd.
Arweiniodd hyn at y cyn-arweinydd a'r prif weithredwr ill dau yn ymddiheuro am y lansiad gwallus. Dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae problemau'n parhau, ond dywedodd y Cynghorydd Evans y byddai cyfarfod preifat ddydd Mercher i drafod ailgylchu, gydag unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno i'r cabinet maes o law.
Gofynnwyd i'r Cynghorydd Evans hefyd am benderfyniadau blaenorol i dorri oriau llyfrgelloedd a chau toiledau cyhoeddus. Dywedodd y byddai’n ailystyried y penderfyniadau hynny hefyd.
“Ie, rydym yn ailystyried y penderfyniad presennol. Yn syml, allwn i ddim deall sut na allai sefydliad â chyllideb o £300m gadw toiledau ar agor yn Sir Ddinbych. Doeddwn i ddim yn deall hynny,” meddai.
“Ac o ran llyfrgelloedd hefyd, mae'r toriad i oriau llyfrgelloedd wedi bod yn eithaf llym yn fy marn i. Dwi eisiau ailystyried hynny hefyd a gweld a allwn ni ddod o hyd i rywbeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth i'n trigolion.”
Siaradodd y Cynghorydd Evans hefyd am y berthynas rhwng aelodau'r cabinet ac uwch swyddogion – gan ei disgrifio fel perthynas "allweddol" – a chyfrifoldeb yr aelodau arweiniol pan fo angen gwneud penderfyniadau anodd.
Dywedodd: "Fel aelod o'r cabinet, rwy'n teimlo'n wirioneddol freintiedig o gael y cyfle i gysylltu ag uwch swyddogion o fewn y sefydliad, ac mae angen i ni wneud y gorau o hynny fel aelodau. Felly dyna sut rwy'n gweld y berthynas honno'n datblygu.
"A hoffwn hefyd ddweud, pan fo materion neu benderfyniadau anodd, bod angen i aelodau arweiniol arwain y broses; yn y pen draw, penderfyniad gwleidyddol ydy o bob amser. A dwi’n gobeithio gweld aelodau arweiniol yn cymryd yr awenau, hyd yn oed os ydy o’n anodd ac yn lletchwith, i ddangos rhywfaint o arweinyddiaeth ac i roi cefnogaeth i'r uwch-reolwyr wrth ystyried yr holl dystiolaeth cyn gwneud y penderfyniad hwnnw."
Cyllideb ‘ymarferol a realistig’
Amlinellodd y Cynghorydd Evans sut bydd yn ymdrin â chyllideb nesaf y cyngor, gan dynnu ar ei brofiad blaenorol fel arweinydd yn ystod cyfnod o gyni ariannol. Daw ei sylwadau yn sgil rhagolygon o fylchau ariannu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf a allai fod cymaint â degau o filiynau o bunnoedd.
"Yn y gorffennol, pan oeddwn yn arweinydd, profais ddeuddeg mlynedd o gyni, ac roedd yn anodd iawn gosod y gyllideb pan nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddyrannu gan ein huwch-awdurdodau gwleidyddol; roedd hynny'n her ynddo'i hun, felly rwy'n ymwybodol iawn o'r anhawster sy'n gysylltiedig â gosod y gyllideb."
Yna dywedodd ei fod eisiau i "bob aelod" rannu eu pryderon ynghylch y mater.
"Ond dwi eisiau i'r gyllideb hon fod yn un ymarferol a realistig, sy'n cynnal ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol, ond rhaid iddi ganolbwyntio ar y gymuned. I mi, mae hynny'n bwysig iawn," meddai.
"Llywodraeth leol ‘dan ni. Nid y Senedd, ac nid San Steffan. Llywodraeth leol ‘dan ni, ac mae gennyn ni gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau i'n trigolion."
Ychwanegodd: "Dyma'r lefel orau o ddemocratiaeth y gallwch ei chael, a ‘dan ni’n freintiedig o allu gynrychioli ein trigolion, a dwi eisiau i'r gyllideb adlewyrchu hynny."
Ychwanegodd mai pwrpas yr wyth mis nesaf cyn yr etholiad oedd gosod y sylfeini ar gyfer y cyngor nesaf a gwreiddio prosesau.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis y byddai’n hoffi gweld un ddogfen yn rhestru amcanion ynghyd â meini prawf llwyddiant, er mwyn dangos a oedd targedau’n cael eu cyrraedd. Atebodd y Cynghorydd Evans fod honno’n broses statudol oedd yn digwydd beth bynnag.