Newyddion S4C

Rhwystro cynlluniau i ail-adeiladu pont ar ôl gwario £1.5m

Pont Llanerch

Mae cabinet cyngor wedi pleidleisio o blaid cefnu ar gynlluniau i ail-adeiladu pont a chwalodd mewn storm er bod £1.5 miliwn eisoes wedi ei wario ar y gwaith cynllunio.

Fe wnaeth Pont Llanerch dros Afon Clwyd ger Trefnant chwalu yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr 2021.

Ond fe wnaeth pwyllgor archwilio argymell peidio â bwrw ymlaen â’r gwaith, gan ddweud y gallai beryglu cyflenwad dŵr 85,000 o gartrefi.

Roedd yr hen bont uwchben dyfrhaen (aquifier) dŵr croyw sydd yn cael ei defnyddio gan Ddŵr Cymru i gyflenwi dŵr yfed i'r ardal.

Er mwyn adeiladu'r bont newydd, byddai angen i beirianwyr ddrilio i mewn i’r haenau tywodfaen o dan y bont, a allai greu holltau a fyddai'n halogi'r dŵr.

Dywedodd y cyngor eu bod nhw eisoes wedi gwario £1.5m ar y gwaith cynllunio. Fe fyddai'r bont derfynol wedi costio £8m i £10m arall i’w hadeiladu.

Dywedodd Paul Jacksons, pennaeth priffyrdd a gwasanaethau amgylcheddol y cyngor: “Nid oes ateb wedi’i ganfod sy’n cael gwared â’r risg i’r dŵr yn llwyr."

Ychwanegodd: “Maen nhw [Dŵr Cymru] yn ystyried bod y risg yn uchel iawn, a bydden nhw’n awgrymu nad ydym yn bwrw ymlaen â’r prosiect hwn.”

Dywedodd nad oedd pont dros dro yn bosibl oherwydd y gallai pont heb sylfeini “beryglu bywydau” yn ystod llifogydd.

'Gwybodus'

Fe ychwanegodd y Cynghorydd Jason McLellan, arweinydd y cyngor, y bydden nhw’n “atebol” ac o bosib yn gorfod talu “miliynau” pe bai rhywbeth yn digwydd i’r dŵr yfed.

Roedd y cynghorydd Chris Evans, serch hynny, yn credu y byddai pont heb sylfaeni yn bosib gan ddweud ei fod wedi trafod gyda chwmni adeiladu lleol amdano.

“Dydyn ni ddim wedi edrych gydag argyhoeddiad ar bont dros dro,” meddai.

“Dydw i ddim yn bwriadu bod yn amharchus, ond mae Jones Brothers yn adeiladu traffyrdd. 

“Nhw yw’r bobl sy’n gwneud y gwaith. Y nhw yw’r bobl wybodus sydd wedi edrych ar hynny.”

Ychwanegodd: “Mae’r trigolion eisiau man croesi.”

Pleidleisiodd y cabinet yn unfrydol o blaid rhoi’r gorau i weithio ar y prosiect.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.