Carcharorion cyntaf yn gadael eu celloedd dan y cynllun rhyddhau’n gynnar

Carchar a swyddog yn cerdded yn y cyntedd.

Mae disgwyl i gannoedd o garcharorion gael eu rhyddhau ddydd Iau wrth i’r cynllun dadleuol i adael i rai troseddwyr ddychwelyd i’r gymuned yn gynnar ddod i rym.

Tua 700 o garcharorion fydd yn gadael eu celloedd yn ystod cyfnod cychwynnol y Cynllun Rhyddhau’n Gynnar, sydd wedi derbyn cryn feirniadaeth gan ddioddefwyr ac ymgyrchwyr.

Nod y mesurau, sy’n cael eu gweithredu yng Nghymru a Lloegr, yw creu mwy o le mewn carchardai.

Dywedodd adran cyfiawnder Llywodraeth y DU y bydd y troseddwyr yn cael eu monitro dan y system goruchwylio “mwyaf llym yn hanes Prydain.”

Cwtogi’r rhestr - ond beirniadaeth yn parhau

Ers dod i rym yn ystod yr haf, mae’r Prif Weinidog Andy Burnham wedi lleihau’r nifer fydd yn cael eu rhyddhau o 6,000 i 5,000, gan dynnu treiswyr a’r rheiny sydd wedi cyflawni troseddau rhyw difrifol yn erbyn plant oddi ar y rhestr.

Ond mae dioddefwyr mathau eraill o droseddau wedi galw am gyfyngiadau pellach.

Yn gynharach eleni, dywedodd dynes o Wynedd gafodd ei bygwth â gwn gan ei chyn-bartner y dylai camdrinwyr domestig gael eu cadw dan glo gan nad ydy’r system i’w goruchwylio’n gweithio’n effeithiol.

“Fel mae pethau ar hyn o bryd, o ystyried lefel y risg sy’n gysylltiedig â rhai o’r troseddwyr dan sylw, dw i ddim yn meddwl y dylen nhw gael eu rhyddhau,” meddai Rhianon Bragg.

'Geiriau mawr'

Cyn i’r don gyntaf o garcharorion gael eu rhyddhau ddydd Iau, dywedodd Claire Waxman, Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, nad ydy hi’r un mor ffyddiog â’r llywodraeth am y cynllun.

“Mae dioddefwyr a’r cyhoedd wedi cael sicrwydd dro ar ôl tro bod mesurau diogelu cadarn ar waith a bod y rhai sy’n cael eu rhyddhau yn wynebu’r goruchwyliaeth mwyaf llym a osodwyd erioed ar droseddwyr yn y gymuned,” meddai.

“Mae’r rhain yn eiriau mawr.

“Fel Comisiynydd Dioddefwyr, fy mhryder yw nad yw’r hyder a ddangosir gan y llywodraeth yn cyfateb eto i’r realiti ar lawr gwlad.

“Nid yw honiadau hyderus mewn datganiadau i’r wasg yn cymryd lle cynllunio effeithiol, paratoi cadarn a darpariaeth gyson. Mae prinder wedi bod o’r tri hyn.”

Rhybuddiodd y Ceidwadwyr, y brif wrthblaid yn y Senedd yn San Steffan, bod polisi’r llywodraeth Lafur yn peryglu diogelwch ac y byddai’r cyhoedd yn “talu’r pris.”

'Unman i guddio'

Ond dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Alex Norris, fod y llywodraeth yn cyflwyno ystod o fesurau llym “i reoli pobl sy’n gadael y carchar ac i ddiogelu’r cyhoedd yn well.“

Ychwanegodd: “Rydym yn deall y pryder sy’n wynebu dioddefwyr cyn dyddiadau rhyddhau troseddwyr, ond y perygl mwyaf i ddioddefwyr fyddai i garchardai redeg allan o gelloedd ar gyfer troseddwyr peryglus – sef yr argyfwng a etifeddwyd gan y llywodraeth hon.

“Bydd ein cynllun yn sicrhau na fydd hyn yn digwydd byth eto drwy greu 14,000 o leoedd mewn carchardai, tra’n gosod y mesurau diogelu llymaf erioed ar droseddwyr – gan sicrhau nad oes ganddynt unman i guddio a’u bod yn gwybod yn iawn ein bod yn eu gwylio.”

Prif lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.