Dioddefwraig o Wynedd yn galw am reolau llymach dros ryddhau carcharorion yn gynnar
Mae dynes o Wynedd a gafodd ei bygwth â gwn gan ei chyn-bartner yn galw am reolau llymach i gamdrinwyr domestig fel rhan o gynlluniau newydd y llywodraeth i ryddhau carcharorion yn gynnar.
Yn 2020, cafodd Gareth Wyn Jones ei garcharu am bedair blynedd a hanner am ddal Rhianon Bragg o Rosgadfan yn wystl dros nos, ei stelcio a bygwth ei lladd ar ôl iddi ddod â’u perthynas i ben yn 2019.
Cafodd ei ryddhau ar drwydded ym mis Chwefror 2024.
Mae bod ar drwydded yn golygu bod person yn dal i dreulio dedfryd o garchar, ond ei fod yn cael byw yn y gymuned o dan amodau llym.
Fel rhan o amodau trwydded Jones, nid oedd hawl ganddo fynd i bedair sir o amgylch cartref Ms Bragg am gyfnod o bum mlynedd, ond dywedodd Ms Bragg ei bod wedi dechrau teimlo’n “gaeth”.
Bu farw Jones ym mis Chwefror 2025.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i leihau nifer y carcharorion drwy ryddhau rhai ohonyn nhw’n gynnar, yn sgil gorlenwi mewn carchardai.
Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, wedi cyhoeddi na fydd unrhyw un a gafwyd yn euog o ladd anghyfreithlon yn gymwys i gael ei ryddhau o’r carchar yn gynnar.
Bydd carcharorion a gafwyd yn euog o droseddau rhywiol hanesyddol yn erbyn plant hefyd yn cael eu heithrio o’r newidiadau.
Wrth gyhoeddi’r mesurau newydd ar gyfer camdrinwyr domestig sy’n cael eu rhyddhau’n gynnar, dywedodd y Prif Weinidog: “Er mwyn amddiffyn dioddefwyr, byddwn ni’n cyflwyno’r mesurau llymaf erioed i oruchwylio troseddwyr. I bob pwrpas, bydd hyn yn golygu na fydd dedfryd troseddwr yn dod i ben pan fydd yn gadael y carchar.
“Mae’r mesurau’n cynnwys rhoi tagiau electronig ar droseddwyr ac, am y tro cyntaf erioed, cyflwyno parthau cyfyngu i’w hatal rhag mynd yn agos o gwbl at eu dioddefwyr.”
Mae hyn yn golygu mai dim ond mewn ardaloedd penodol yng Nghymru a Lloegr y gall troseddwyr fyw, gweithio a theithio am weddill eu hoes.
Fe fyddai hyn yn wahanol i “barthau gwaharddedig”, sy’n gwahardd troseddwyr rhag mynd i ardaloedd penodol.
‘Diwedd y seibiant’
Ond mae Rhianon Bragg yn poeni am effaith y cynllun ar ddioddefwyr cam-drin domestig.
“Dyna ddiwedd y seibiant. Os oes unrhyw seibiant bach o gwbl tra bo’r troseddwr dan glo, mae’n dod i ben cyn gynted ag y caiff ei ryddhau,” meddai.
Ychwanegodd Ms Bragg ei bod wedi bod yn gobeithio gweld cryfhau y “parthau cyfyngu”.
“Fe ddylai fod yn hollol glir. Dach chi’n byw ac yn gwneud beth bynnag fedrwch chi i geisio cael amser a lle i wella ar ôl yr hyn dach chi wedi’i ddioddef, a bydd cyfyngiadau ar y person sydd wedi achosi hynny er mwyn ei gadw ymhell oddi wrthych chi,” meddai.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud na fydd y cynllun yn rhoi unrhyw un mewn perygl, ond dywedodd Ms Bragg nad oedd hi’n cytuno â hynny, “ar sail yr wybodaeth rydyn ni wedi’i dderbyn”.
“Dw i’n bryderus iawn ynghylch nifer y tyllau sydd yn y system. Er mwyn i’r parthau cyfyngu weithio’n iawn ac yn effeithiol, y peth mwyaf sylfaenol yw bod y troseddwyr yn cael eu lleoli bellter sylweddol oddi wrth y dioddefwr.”
‘Rhyddhau’r bobl gywir?’
Ychwanegodd Ms Bragg ei bod hi’n deall, i ryw raddau, pam mae Llywodraeth y DU yn edrych ar ryddhau rhai carcharorion yn gynt.
“Fedra i werthfawrogi bod problem yn ymwneud â gorlenwi carchardai ac, o ganlyniad, y bydd angen rhyddhau carcharorion,” meddai.
“Tybed ai’r bobl gywir maen nhw’n eu rhyddhau?
“Dw i ddim yn meddwl bod hyn yn syniad da o gwbl.
“Fel mae pethau ar hyn o bryd, o ystyried lefel y risg sy’n gysylltiedig â rhai o’r troseddwyr dan sylw, dw i ddim yn meddwl y dylen nhw gael eu rhyddhau.”