Y cwmnïau Cymreig sydd heb fod yn talu isafswm cyflog i'w staff
Mae cannoedd o gyflogwyr wedi cael eu henwi ar restr newydd Llywodraeth y DU am fethu â thalu'r isafswm cyflog i'w staff - gyda degau o'r rhain yng Nghymru.
Mae tua £4 miliwn wedi'i ddychwelyd i dros 27,000 o weithwyr a gafodd eu "hamddifadu o'r cyflog yr oedd hawl gyfreithiol ganddynt i'w dderbyn" meddai'r llywodraeth, gyda dirwyon gwerth cyfanswm o £7 miliwn yn cael eu rhoi i'r cyflogwyr dan sylw.
Ymysg rhai o'r newau mwyaf amlwg ar y rhestr mae cwmni B&Q.
Ar hyn o bryd yr isafswm cyflog yr awr yw:
Dros 21 oed - £12.71 / 18 i 20 oed - £10.85 / Dan 18 oed - £8 / Prentis - £8
Wrth gyhoeddi'r rhestr ddiweddaraf, dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Jonathan Reynolds: Mae'r busnesau gorau yn gwybod nad yn unig yw gofalu am eich gweithwyr y peth cywir i'w wneud, ond mae'n beth doeth hefyd; mae'n creu busnesau cryfach a mwy llwyddiannus sy'n ysgogi twf ym mhob ardal.
"Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr eisoes yn deall hyn, ac rwyf am weithio gyda nhw i sicrhau bod yr holl ganllawiau a'r gefnogaeth sydd ar gael ganddynt i'w helpu i ddilyn y rheolau.
"Nid yw talu llai na'r hyn sy'n ddyledus i'ch staff yn ffordd gyflym at lwyddiant, ac rydym yn benderfynol o ddileu'r arfer hwn."
Dywedodd Kate Dearden, y Gweinidog dros Ddyfodol Gwaith: " Mae talu llai na'r cyflog cywir i staff yn anghyfreithlon, ac ni fyddwn yn gadael i weithwyr ysgwyddo'r gost pan fydd eu cyflogwr yn methu â dilyn y rheolau.
"Rydym yn sicrhau bod gweithwyr yn cael y cyflog y maent wedi gweithio'n galed amdano ac yn ei haeddu, a bydd cyflogwyr sy'n methu â chydymffurfio yn cael eu dwyn i gyfrif.
"Dylai pob cyflogwr wirio ei system dalu nawr a chysylltu ag Acas os oes angen cymorth pellach arno."
Dyma'r cwmnïau yng Nghymru sydd ar y rhestr ddiweddaraf, a'r cyfanswm na chafodd ei dalu i staff:
Mrs Hilary F & Miss Hannah R McPherson
£16,423.61
Glamorgan Quality Meats Ltd
£14,988.46
Oakville Care Limited
£13,679.18
Powred Heating Components Limited
£11,864.80
Mr Ramkumar Krishnaswamy
£8,213.69
The Mill Risca Ltd
£6,757.00
P Smith Farriers Ltd
£4,822.83
Farmers Barns Limited
£4,430.57
Cardiff Property Corporation Limited
£4,101.34
S.O.E. Brickwork Ltd
£4,047.67
Red Balloon Day Nursery Limited
£3,318.74
Kaya Brothers Limited
£3,234.98
Kaya Brothers Limited Total
£3,234.98
Castle Leisure Limited
£3,009.50
Oak House Care Limited
£2,899.37
A Bright Star Nursery (Rumney) Limited
£1,949.43
Mr Harry Casaru
£1,881.31
NJ Yarn Distributors Limited
£1,626.43
Vietnam Restaurant Ltd
£1,558.33
Beaches Hotel Limited
£1,386.85
Primacy Care Limited
£1,367.12
Blossom Tree Nursery Rhiwbina Ltd
£1,234.68
Pineshield Management Limited
£1,231.76
The Enchanted Grove Limited
£1,121.46
Clifton Dental Care Limited
£1,095.49
Al-Kamoosi Limited
£1,026.95
Pixaserv Ltd
£986.00
Pili Palas Nature World Limited
£984.62
MBS North East Ltd
£944.23
Quantum Coffee Roasters Ltd
£932.51
Family First Professionals Ltd
£845.50
G.Parry Home Improvements Limited
£749.41
South Wales Transport (Neath) Ltd
£700.07
CWCIO Limited
£577.84
Chappell MOT & Service Centre Ltd
£570.40
Cyfanswm Cymru:
£124,562.13
