Ymchwiliad newydd i gyllid Reform yn taflu cysgod ar gynhadledd y blaid

Farage CH4

Bydd Nigel Farage yn annerch cynhadledd Reform UK ddydd Gwener wrth iddo wynebu rhagor o gwestiynau am gyllid ei blaid.

Mae disgwyl i arweinydd Reform addo y byddai Senedd San Steffan yn eistedd saith diwrnod yr wythnos mewn ymgais i "drwsio" Prydain, yn ei araith i gefnogwyr y blaid yn yr NEC yn Birmingham.

Ond mae perygl i'w araith gael ei chysgodi gan honiadau bod Reform wedi torri rheolau rhoddion gwleidyddol drwy gael cwmni tramor i dalu am waith ar arolygon barn.

Mae pleidiau eraill wedi cysylltu gyda'r heddlu yn dilyn honiadau mewn ymchwiliad gan Channel 4 News bod Reform wedi derbyn cyllid gan gwmni o'r Unol Daleithiau ar gyfer cynnal tri arolwg barn a gomisiynwyd gan Reform yn gynharach eleni, a gostiodd £32,500.

Mae Reform wedi gwadu unrhyw gamymddwyn ac wedi mynnu bod ganddynt "broses wirio gadarn" mewn lle ar gyfer derbyn rhoddion.

Gohebwyr cudd o'r grŵp ymchwiliol Verbatim oedd y rhai oedd yn rhoi'r arian; gan esgus bod yn gefnogwr ariannol Americanaidd oedd gyda mab oedd yn byw yn y DU.

Nid yw cwmnïau tramor yn cael bod yn ffynhonnell gyfreithlon o gyllid i bleidiau - gan gynnwys taliadau am astudiaethau ac ymchwil - ac fe allai derbyn rhoddion ganddynt fod yn drosedd.

Mae Cadeirydd y Blaid Lafur, Bridget Phillipson, wedi galw ar Mr Farage a'i dîm i "brofi ar frys" nad oeddent wedi "torri'r gyfraith a chynllwynio'n gyfrinachol i danseilio ein democratiaeth".

Mewn llythyr at Heddlu'r Met yn Llundain, dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar faterion Swyddfa'r Cabinet, Lisa Smart, fod y honiadau'n codi "cwestiynau brawychus ynghylch a fu diffyg pryder digonol - neu hyd yn oed anwybyddu - ymyrraeth dramor gan yr unigolion dan sylw".

Llun: Channel 4 News

 
 
 
 
 
 
 


 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.