'Nid gwersylla gwyllt yw hyn': Ymwelwyr yn gadael carthion dynol ar dir y Bannau Brycheiniog

Bannau

Mae wardeiniaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi dwyn sylw pobl at achosion o sbwriel gan gynnwys carthion dynol yn cael ei adael yn ardal y Parc gan ymwelwyr, a'r ymdrech sylweddol gan eu staff i'w glirio.

Yn dilyn Gŵyl y Banc olaf yr haf, cyhoeddodd swyddogion y Parc neges ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos sbwriel oedd wedi ei adael ar ôl mewn un llecyn.

"Nid gwersylla gwyllt yw hyn" meddai neges y wardeiniaid. 

"Taflu sbwriel yn anghyfreithlon a llygru'r amgylchedd yw hyn." 

Dywedodd y neges fod un o'u wardeiniaid wedi treulio penwythnos Gŵyl y Banc "mewn ffordd annymunol iawn, gan glirio pabell yn llawn offer - gan gynnwys cadeiriau, barbeciw a dau fag o fwyd yn llawn cynrhon."

Ychwanegodd ei fod wedi "dod o hyd i garthion dynol ar y safle hefyd."

"Wrth fwynhau byd natur, parchwch eich amgylchoedd. Peidiwch â gadael unrhyw olion ar eich ôl, a chymerwch bopeth yn ôl adref gyda chi.

"Does dim esgus dros ymddygiad o'r fath. Diolch i'n Wardeniaid sydd bob amser yn gwneud mwy na'r disgwyl."

Llun: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.