Presenoldeb dysgwyr ôl-16 yn parhau'n is na lefelau cyn y pandemig, medd Estyn

Myfyriwr / Prifysgol / Coleg

Mae presenoldeb dysgwyr ôl-16 yn parhau i fod yn is na lefelau cyn y pandemig mewn rhai ysgolion a cholegau yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan y corff arolygu ysgolion.

Dywedodd Estyn fod dysgwyr chweched dosbarth a cholegau wedi mynychu tua 80% o’u gwersi ar gyfartaledd dros y tair blynedd diwethaf.

Ond mae’r adroddiad yn rhybuddio ei bod yn anodd cymharu ffigyrau, gan nad oes dull cenedlaethol cyson o gofnodi presenoldeb ôl-16 yng Nghymru.

Mae nifer o ddarparwyr wedi sôn am welliant graddol mewn presenoldeb yn ystod y tair blynedd diwethaf. 

Er hynny, roedd lleiafrif ohonynt yn parhau i adrodd bod presenoldeb gryn dipyn yn is na lefelau cyn y pandemig.

Mae Estyn hefyd yn cyfeirio at dystiolaeth gynharach sy’n dangos nad yw presenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi adfer yn gyson i lefelau cyn Covid, gyda lefelau absenoldeb parhaus yn "sylweddol uwch" na chyn y pandemig.

Mae’r adroddiad yn nodi bod effaith y pandemig ar ymgysylltiad dysgwyr yn parhau i gael ei deimlo, gydag arweinwyr yn nodi'n gyson fod pryderon am les a gwydnwch dysgwyr wedi dod yn fwy amlwg ers y pandemig. 

Roedd rhai dysgwyr hefyd yn cael trafferth dychwelyd at arferion mynychu rheolaidd ar ôl cyfnodau o absenoldeb.

'Covid ddim yr unig ffactor'

Er hynny, nid Covid yw’r unig ffactor sydd wedi cyfrannu at bresenoldeb is ymhlith dysgwyr ôl-16, yn ôl yr adroddiad.

Mae Estyn yn nodi problemau trafnidiaeth, costau teithio, pwysau ariannol, gwaith rhan-amser, amgylchiadau teuluol a diffyg cymhelliant neu ymgysylltiad ymhlith y ffactorau sy’n gallu effeithio ar bresenoldeb.

Mae rhai dysgwyr hefyd yn ei chael hi’n anodd cydbwyso astudio â gwaith cyflogedig, yn enwedig pan fyddant yn gweithio sifftiau hwyr.

Mae presenoldeb yn tueddu i fod yn gryfach ar gyrsiau Safon Uwch a rhaglenni galwedigaethol Lefel 3, yn ôl yr adroddiad.

Mae presenoldeb yn gyffredinol wannach ymhlith dysgwyr Blwyddyn 12, ar raglenni lefel is ac mewn elfennau gorfodol o ddarpariaeth, fel cyrsiau ailsefyll TGAU Saesneg a Mathemateg a sesiynau Bagloriaeth Cymru. 

Mae Estyn yn dweud bod dysgwyr yn fwy tebygol o fynychu gwersi pan fyddant yn credu bod eu cwrs yn berthnasol i’w cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Roedd perthnasoedd da â staff, sesiynau difyr a chymorth bugeiliol yn gallu helpu i wella presenoldeb dysgwyr, meddai.

Galw am welliannau cofnodi

Yn ôl Estyn, dylai darparwyr gryfhau eu hymagwedd at wella presenoldeb a defnyddio data presenoldeb yn fwy effeithiol.

Mae’r adroddiad hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a Medr - Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru - weithio gyda’r sector i ddatblygu dull cyson o gofnodi ac adrodd ar bresenoldeb ôl-16, ac i gyhoeddi data cenedlaethol er mwyn gallu mesur cynnydd yn well.

Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans: “Mae llawer o ddarparwyr yn gweithio’n galed i wella presenoldeb trwy ddisgwyliadau clir, cymorth bugeiliol cryf a dulliau sydd wedi’u teilwra i ddysgwyr unigol.

“Fodd bynnag, mae presenoldeb yn parhau i fod yn is nag y mae darparwyr yn ei ddisgwyl, ac mae dysgwyr yn wynebu heriau cydgysylltiedig, gan gynnwys anawsterau trafnidiaeth, pwysau ariannol a phryderon yn ymwneud â lles. 

“Byddai dull cenedlaethol mwy cyson o gofnodi presenoldeb yn rhoi darlun cliriach i ddarparwyr a’r rhai sy’n llunio polisïau ac yn cefnogi gwelliant ar draws y sector ôl-16.”

Dywedodd llefarydd ar ran Medr: “Mae adroddiad Estyn yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i bresenoldeb a chyfranogiad ar draws addysg ôl-16 yng Nghymru ac yn atgyfnerthu'r cysylltiad pwysig rhwng presenoldeb, lles dysgwyr a chanlyniadau cadarnhaol. 
 
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid i rannu arferion effeithiol, cryfhau ymgysylltiad dysgwyr ac archwilio mwy o gysondeb mewn data presenoldeb ar draws y sector.”
 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.