Trigolion yn galw am ail-godi pont yn Sir Ddinbych
10/02/2022Trigolion yn galw am ail-godi pont yn Sir Ddinbych
Does “neb yn cymryd sylw” o effaith cwymp pont ar bentrefi yn Sir Ddinbych, yn ôl trigolion.
Disgynnodd Pont Llannerch, oedd yn cysylltu Tremeirchion a Threfnant, yn ystod Storm Christoph y llynedd.
Er bod y cyngor sir wedi cytuno mewn egwyddor i godi pont newydd, mae rhai yn eu cyhuddo o lusgo’u traed.
Gwadu hynny mae’r awdurdod lleol, sy’n dweud bod gwaith yn digwydd “tu ôl i’r llen” er mwyn gallu cyflwyno “achos busnes cadarn” ymhen “cwpwl o fisoedd”.
Er hynny mae rhai busnesau a thrigolion Tremeirchion, sy’n wynebu taith o dros bum milltir i Drefnant bellach, yn honni bod “neb yn gwrando” ar eu pryderon.
'Cytbwys'
Yn ôl pobl yr ardal, roedd y ffordd a’r bont yn cael eu defnyddio fel lôn gefn i draffig o briffordd yr A55 oedd eisiau mynd i Ddyffryn Clwyd gan osgoi cylchfannau a thagfeydd Llanelwy.
Am y rheswm hwnnw, mae aelod o Gyngor Cymuned Tremeirchion, Cwm a’r Waen yn dweud bod angen ateb “cytbwys” wrth ddylunio pont newydd.
“‘Dan ni’n awyddus i weld pont sy’n debyg i’r hen bont,” meddai’r Cynghorydd Dewi Davies.
“‘Dan ni ddim eisiau gweld ffordd osgoi sydd â lled ychwanegol, a ‘dan ni’n awyddus i gadw costau mor dynn ag y gallwn ni.”
'Ymrwymo'
Ond mi fydd yn rhaid i’r bont newydd gael dwy lôn i gydymffurfio â gofynion cyfoes, yn ôl y Cynghorydd Brian Jones, yr aelod arweiniol dros wastraff, cludiant a'r amgylchedd ar Gyngor Sir Ddinbych.
Dywedodd ei fod yn “deall bod trigolion efallai’n meddwl bod dim yn digwydd” ond mae’n credu y byddan nhw’n gallu cyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru ymhen “cwpwl o fisoedd”.
“‘Dan ni wedi ymrwymo i ailgodi pont, a dwi’n credu bydd hynny’n digwydd go wir,” meddai.
“Ond mae’n rhaid i ni gyflwyno achos busnes cadarn i Lywodraeth Cymru, fel ei bod hi’n anodd iddyn nhw beidio dweud ‘ie, fe wnawn ni eich cefnogi chi ac ariannu’r gwaith o ddisodli’r bont yma.’”
Ychwanegodd y Cynghorydd Jones eu bod wedi bod yn siarad gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ynghylch arafu llif yr afon yng nghyffiniau’r bont.
Dywedodd bod y bydd angen trafod hefyd gyda thirfeddianwyr lleol cyn codi pont newydd, a bod hi felly yn anodd dweud pryd fydd strwythur newydd yn ei le ac yn barod i’w ddefnyddio.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi "gwahodd awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid yn 2022-23 o'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth ar gyfer rhaglenni cyfredol."
Fe ychwanegodd llefarydd: "Er nad ydy Pont Llannerch yn rhaglen gyfredol, gall y cyngor gyflwyno cais a fydd yn cael ei ystyried pan fydd rhagor o gyllid ar gael."
Bwriad y cyngor yw cynnal cyfarfodydd cyhoeddus cyn hir i er mwyn rhoi diweddariad i’r cyhoedd am y prosiect.