
‘Dim croeso i fi yma?’ Profiad DJ o Gaernarfon mewn Eisteddfod

‘Dim croeso i fi yma?’ Profiad DJ o Gaernarfon mewn Eisteddfod
Mae DJ o Gaernarfon wedi siarad am y tro cyntaf am “brofiad annifyr” wnaeth achosi iddo deimlo bod diffyg croeso iddo mewn rhai cylchoedd Cymraeg.
Y Gymraeg yw iaith gyntaf Endaf Roberts, ac mae’n wyneb cyfarwydd ar S4C ar raglenni fel Cân i Gymru a Y Llais. Yn 2017, fe wnaeth ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf i berfformio set DJ - gŵyl lle mae cerddoriaeth Gymraeg yn unig yn cael ei chwarae.
“Ges i wahoddiad i chwarae yn y ‘Steddfod, a ‘dw i rioed ‘di bod yn y ‘Steddfod o’r blaen, I don’t know the drill, oni’n chwarae tunes ac yn DJio ac wnes i chwarae cân Saesneg.”
O ganlyniad i hyn, mae Endaf yn dweud bod aelod o’r cyhoedd wedi dod ar y llwyfan i fynnu ei fod yn dod â’i set i ben. Cafodd ei glustffonau eu torri wrth i’r sefyllfa droi’n annifyr.
Yn y pendraw, fe gafodd yr heddlu eu galw, a bu’n rhaid i Endaf adael y maes wedi’i ysgwyd gan y digwyddiad.
“Oni'n meddwl: ‘waw sa ddim croeso i fi yn fama!’
“Am flynyddoedd oni'n meddwl dwi’m isho byd i ‘neud hefo hyn. Ar y pryd oni'n meddwl ‘o dwi ddim yn Gymraeg, hein ‘di’r bobol Cymraeg a dwi jyst ddim yn ffitio mewn yn hynna. ‘Nath hynna ga’l effaith mawr arna fi,” meddai.

Roedd Endaf yn siarad yn ystod rhaglen o Y Byd ar Bedwar sy’n edrych ar gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg ac yn clywed pryderon rhai sy’n teimlo iddynt gael eu beirniadu am safon eu hiaith.
Gyda tharged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae Endaf yn poeni y gallai profiadau negyddol mewn cylchoedd Cymraeg wthio pobl i ffwrdd o’r iaith.
“Mae o jyst yn annoying achos pobol yma di’r pobol mwyaf vocal am isho promotio yr iaith Gymraeg. Os tisho cael mwy o bobol i siarad Cymraeg - ti angen targedu y pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg yn lle bod yr elitism ma am y peth, yn lle bod yn y clic bach am y peth lle mae pawb yn siarad Cymraeg perffaith.
“Os da chi isho teimlo yn smart yn bod yn clic bach yn siarad Cymraeg perffaith do your thing - ond paid a deutha fi sut i siarad Cymraeg plîs, na neb arall chwaith."
Mae Y Byd ar Bedwar wedi gofyn am ymateb gan yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn ôl eu gwefan, maent yn dweud bod yna groeso cynnes i bawb i’r ŵyl, pa bynnag iaith maen nhw’n ei siarad.
Maen nhw’n dweud bod y rheol iaith yn rhan greiddiol o’r Eisteddfod ac mae’n rhaid i bawb ei pharchu. Mae’r ymateb i’r ffaith ei bod hi’n ŵyl Gymraeg yn hynod bositif ar draws Cymru, ac roedd hynny yn arbennig o wir yn Rhondda Cynon Taf y llynedd.