Newyddion S4C

Mudiad amgylcheddol yn prynu tir lle'r oedd coed wedi eu torri yn anghyfreithlon

Y tir ar ôl i'r coed gael eu torri lawr yn 2020

Mae mudiad amgylcheddol roddodd dystiolaeth yn erbyn tirfeddiannwr wnaeth dorri coed yn anghyfreithlon bellach wedi prynu'r tir i geisio ei adfer.

Dyma'r tro cyntaf i Gyfeillion Gŵyr brynu tir ac fe fyddan nhw yn rhoi'r safle 43 acer ar les i ymddiriedolaeth bywyd gwyllt i'w reoli.

Mae'r gymdeithas yn disgrifio'r tir fel un gyda dolydd, ffrwd ac ardaloedd agored. Maent yn dweud bod yna botensial o safbwynt bywyd gwyllt a'i fod yn dirwedd bwysig.

Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf roedd y mudiad wedi bod yn tynnu lluniau o'r Gŵyr o'r awyr. 

Roedd un o'r lluniau yn 2020 yn dangos fod y tir y maen nhw wedi ei brynu yn llawer llai coediog na llun gafodd ei dynnu bum mlynedd ynghynt.

Cafodd perchennog y tir, Thomas Jeffrey Lane ei ganfod yn euog yn Llys Ynadon Abertawe yn 2022 o dorri adran o'r Ddeddf Coedwigaeth. 

Fe glywodd y llys ei fod wedi torri tua 21 acer o dir coediog, sydd yn gyfystyr â 12 cae pêl droed, heb fod gyda'r drwydded gywir i wneud hynny. 

Ni wnaeth chwaith ddilyn gorchymyn i ail dyfu coed yr oedd wedi eu torri yn 2019.

Fe ddisgrifiodd Cyfoeth Naturiol Cymru, wnaeth ddod â'r achos i'r llys, y drosedd fel un o'r rhai gwaethaf o safbwynt torri coed yn anghyfreithlon iddyn nhw ei gweld ers 30 mlynedd.

Fe wnaeth Mr Lane apelio yn erbyn y dyfarniad ac fe ddechreuodd achos arall ond cafodd ei  ddyfarnu'n euog yn 2022. Fe ddywedodd Mr Lane fod y coed yn llawn dŵr ac yn bwdr.

Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru- fydd yng ngofal y tir- wedi dweud y bydd gwarchodfa natur newydd yn cael ei chreu yno.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.