Slot Kneecap yn Glastonbury ‘ddim yn briodol’, meddai Starmer
Mae Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer wedi dweud nad yw’n credu bod perfformiad arfaethedig Kneecap yng Ngŵyl Glastonbury yn “briodol”.
Daw ei sylwadau ar ôl i un o aelodau Kneecap, Liam Óg Ó hAnnaidh, ymddangos yn y llys ddydd Mercher.
Mae wedi ei gyhuddo o ddangos baner oedd yn cefnogi’r sefydliad terfysgol gwaharddedig Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd y llynedd.
Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod tan ei wrandawiad nesaf yn yr un llys ar Awst 20.
Mewn cyfweliad gyda’r Sun dywedodd Syr Keir na ddylai’r triawd sy'n canu yn yr iaith Wyddeleg yn ogystal â Saesneg berfformio yn Glastonbury a’i fod yn meddwl fod “rhaid i ni fod yn hollol glir am hyn”.
Dywedodd Syr Keir: “Mae hyn yn ymwneud â’r bygythiadau na ddylid eu gwneud - wna i ddim dweud gormod oherwydd bod achos llys ar y gweill - ond dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n briodol.”
Dydd Sadwrn, dywedodd arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, na ddylai’r BBC ddangos perfformiad Kneecap yng ngŵyl Glastonbury yr wythnos nesaf.
Dywedodd y BBC: “Nid yw’r BBC yn gwahardd artistiaid, ond byddwn yn sicrhau y bydd ein rhaglenni’n bodloni ein canllawiau golygyddol.
“Fe fyddwn yn penderfynu ar ein hallbwn yn y cyfnod cyn yr ŵyl.”
Llun: Jordan Pettitt / PA.